Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael llai o rodres yn ei argraph a'i eiriadaeth, oherwydd nid yw yn edrych yn naturiol a Chymreig i ddefnyddio v yn lle f, a'r f yn lle f fel yn y geiriau ar brawddegau dilynol: "Prentisiaid argrafu," "gan vod sefyllva arianol y Llywodraeth , vel uchod, nid gwiw disgwyl lai na vo cyvlwr moesoldeb," "Cymerid yn awr ddau brentis yn swyddva Y Dravod, i ddysgu iddynt greft argrafu," &c. Nid ydym yn hollol sicr nad all dull fel hyn wneyd peth niwed i Gymraeg pur a syml. Ond, wrth gymeryd yr oll o newyddiaduron a chyfnodolion Cymreig yr America i'r cyfrif, credwn, ar y cyfan, fod yn rhaid canmol eu Cymraeg, a diau fod gan hyn ddylanwad dwfn ar gadwraeth yr iaith yn nghanol cymaint o beryglon i'w cholli. Gellir dyweyd hefyd fod ganddynt ddylanwad cryf ar fywyd ac yspryd cenedlaethol y Cymry. Trwy y newyddiaduron a'r cylchgronau hyn cedwir hwy i ddal cysylltiad a'u gilydd, i gymeryd dyddordeb yn eu gilydd, ac i ddal i fyny eu cydymdeimlad â materion a helyntion Cymreig, ac y maent, i raddau, yn cylymu Cymry yr America wrth yr Hen Wlad. Maent yn cyfryngau effeithiol i gynnyrchu a meithrin y teimlad cenedlaethol. Ymddengys, ar y cyfan, fod yspryd lled werinol yno yn treiddio trwy ein llenyddiaeth Gymreig, a diau fod hyny, mewn rhan fawr, yn codi oddiar natur a dull llywodraethol y wlad, a cheir fod y newyddiaduron a'r cylchgronau a fyddent yn amcanu amddiffyn Democratiaeth yn gwywo yn gynnar. Os ydynt mewn perygl, efallai mai yn rhywle yn y ffordd hon y mae perygl y wasg Gymreig yn yr America: myned mor werinaidd nes bod yn benrhydd a gwyllt. Ond, er hyny, hyd yn hyn, credwn fod eu dylanwad yn cerdded yn nghyfeiriad yr hyn sydd dda. Bu Y Cymro Americanaidd ar un adeg, yn meddu ei filoedd darllenwyr, a phwy a all ddyweyd maint ei