Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac edrych ar wahanol ganghenau y mater yn gwbl ar eu teilyngdod neu eu hannheilyngdod eu hunain, a hyny yn hollol ar wahan bob ystyriaeth arall. Er fod y gorchwyl hwn a gymerasom mewn llaw yn un llafurus a thrafferthus, eto gailwn ddyweyd, oddiar deimlad cywir, i ni gael hyfrydwch a budd wrth geisio edrych i mewn i hanes a dylanwad llenyddiaeth newyddiadurol a chylchgronol ein hanwyl wlad, ac yr ydym yn hyderu y bydd i'r gwaith hwn, er mor anmherffaith ydyw, gynnyrchu dyddordeb mewn llawer eraill i fyned yn mlaen yn mhellach yn yr un cyfeiriad. Gallwn, wrth ymneillduo, ddatgan ein mawr hyder y bydd i'r wasg Gymreig—yn ei gwahanol adranau—barhau i fod dan fendith Duw, ac y bydd iddo Ef daenu ei aden amddiffynol drosti, yn mhob man, holl ddyddiau y ddaear, ac y bydd iddi barhau i arfer ei dylanwad yn mhlaid llenyddiaeth bur, ac yn mhlaid moesoldeb a chrefydd, ac hefyd y bydd i'r wlad—yn gyffredinol—ei chefnogi yn mhob ffordd posibl. Dyna fydd ei choron, a dyna fydd ei chadernid.