Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Udgorn Cymru, 1840.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1840, a pherthynai i'r Siartiaid, y rhai oeddynt yn dra lluosog, y pryd hwnw, yn Mynwy a Morganwg, ac argrephid ef gan y Meistri David John a Morgan Williams, Merthyr Tydfil. Deuai allan unwaith yn y mis. Dadleuai dros yr hyn a elwid yn "Chwe' Pwynt y Siarter (Chartism)," a byddai ei dôn yn gynhyrfus, ac yn gwbl at chwaeth ei blaid. Ni pharhaodd yn hir, oherwydd ceir fod ei olygydd, yn un o'r rhifynau, yn cwyno er fod iddo "gylchrediad gwell na'r un cyhoedd iad arall," eto nad oedd yn cael "y gefnogaeth a deilyngai."

Yr Amserau, 1843.—Efallai, yn y diwedd, er yn cydnabod yr holl wahanol newyddiaduron a enwyd, ac yn barod i roddi llawryf iddynt, fel rhagredegwyr newyddiadurol Cymreig, fod yn rhaid addef mai cychwyniad Yr Amserau oedd y cais llwyddiannus cyntaf i wir sefydlu, fel y cyfryw, newyddiadur Cymreig. Ei bris oedd tair-ceiniog-a-dimai. Nis gellir rhoddi hanes ei gychwyniad yn well, cywirach, ac yn fwy cryno, nag yn ngeiriau y Parch. W. Rees (Hiraethog), ei brif olygydd, ei hunan:—"Wedi fy symudiad i Lerpwl, yn Mai, 1843, bu'm i a'm diweddar gyfaill, Mr. John Jones, Castle-street, argraphydd a llyfrwerthydd, gwr parchus iawn gan ei gyd-genedl yn y dref, a chan y Saeson yr un modd, yn Gymro gwladgarol, ac yn Gymreigydd gwych—buom, meddaf, yn cydymgynghori llawer â'n gilydd, o dro i dro, a allem anturio gwneyd un cynnyg arall i sefydlu newyddiadur Cymreig. Cytunasom, o'r diwedd, i roddi prawf. Yr oedd Mr. Jones i ddwyn y draul o argraphu a chyhoeddi, a gofalu am ddosparth y newyddion cartrefol, marchnadoedd, gohebiaethau, hysbysiadau, &c., a minnau i ymgymeryd â'r olygiaeth, yr erthyglau arweiniol, newyddion