Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tramor, a'r adroddiadau Seneddol, ac i wneyd hyny yn ddi-dâl, oddigerth cael papyr i ysgrifenu arno, ac ink i ysgrifenu âg ef; ac ar y 23ain o Awst, 1843, daeth y rhifyn cyntaf o'r Amserau allan. Nid oedd nifer ei dderbynwyr, ar y cychwyn, er pob ymdrech a wnaethid i daenu hysbysiadau amdano yn mysg ein cyd-wladwyr, ac i'w hannog i'w dderbyn, ond tua pedwar cant Dygid ef allan, ar y cyntaf, yn bythefnosol. Wedi gwneyd y prawf am tua chwe' mis, gwelodd Mr. Jones ei fod yn colli swm o arian ar bob rhifyn, ac nad oedd nifer y derbynwyr yn cynnyddu ond ychydig, a phenderfynodd roddi yr anturiaeth i fyny, ac archodd i mi barotoi erthygl erbyn y rhifyn nesaf i'w gosod yn ngenau Yr Amserau, fel ei genad olaf at ei dderbynwyr. Taer erfyniais arno ei barhau am ychydig amser yn mhellach, fod genyf ryw beth mewn golwg, a allai, hwyrach, hawlio sylw ac ennill derbynwyr Newyddion. Boddlonodd yntau i hyny. Yn ganlynol, ymddangosodd llythyrau 'Rhen Ffarmwr ' ynddo, yn cynnwys sylwadau ar arferion a defodau y wlad, a helyntion y dydd, y Senedd, &c., wedi eu hysgrifenu yn iaith lafar y werin yn uchel diroedd Gogledd Cymru. Llwyddodd yr abwyd. Cyn nyddodd nifer y derbynwyr fesur y degau bob wythnos (bob yn ail wythnos y cyhoeddid y papyr), a daeth golwg obeithiol ar yr achos." Dyna eiriau y gellir dibynu ar eu cywirdeb. Gwelir mai y Parch. W. Rees ei hun oedd y prif ysgogydd yn y symudiad, ac mai Mr. John Jones oedd yr argraphydd a'r cyhoeddwr, a gweithredai hefyd fel is-olygydd, at yr hon swydd y meddai gymhwysderau neillduol, gan ei fod yn feirniad craff ac yn llenor gwych. Blynyddoedd cyfyng a caled a fu y blynyddoedd hyny i'r ddau wron hyn. Dywedir, hyd yn nod ar ol y cynnydd mawr a fu yn ei gylchrediad,