Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan fod y dreth newyddiadurol mor drom, y darllenwyr mor bell a gwasgarog, yr hyn a barai draul uchel i ddanfon y sypynau, na chafodd y golygydd parchus am ei lafur yn nyddiau llwyddiant penaf yr anturiaeth nemawr mwy ar gyfartaledd na deg swllt yr wythnos. Yn y flwyddyn 1848, ymneillduodd Mr. John Jones o'r fasnach, a phrynwyd ei hawl yn y newyddiadur gan Mr. John Lloyd, argraphydd, Wyddgrug, yr hwn a fu o'r blaen yn cyhoeddi Cronicl yr Oes. Darfu iddo ef unwaith, mewn trefn i geisio osgoi y dreth, symud i argraphu y newyddiadur hwn yn Ynys Manaw, gan fod rhyddid yno, y pryd hwnw, i gyhoeddi newyddiaduron yn ddidreth. Ni bu yno ond ychydig wythnosau na alwyd sylw Canghellydd y Trysorlys at y ffaith, a'r canlyniad a fu iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i'w hen gartref yn Lerpwl. Dewiswyd y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), yn y flwyddyn 1852, yn is -olygydd iddo, ac yn fuan iawn daeth yr holl olygiaeth i'w law ef. Dywedir fod ei gylchrediad, ar ddechreuad toriad allan Rhyfel y Crimea, yn cyrhaedd oddeutu wyth mil, yr hyn, y pryd hwnw, a ystyrid yn gylchrediad uchel; ond gan i'r newyddiadur, yn ei gynnwys a'i yspryd, fyned i bleidio Rwsia, ac iddo archolli teimladau lluaws mawr o'r darllenwyr trwy ganiatau ymosodiadau dienw ar ei gyn-olygydd hybarch, syrthiodd ei gylchrediad yn fuan i lai na'r haner, a chafodd gwrthymgeiswyr, drwy hyny, gyfleus dra i ddyfod i'r maes, a daeth dau neu dri allan yn y cyfwng hwnw. Bu iddo, ar gyfrif ei syniadau a'i yspryd ei hunan, a'r ffaith fod newyddiaduron da eraill wedi cychwyn ar yr adeg hono, ddechreu llesgau, ac er iddo ymdrechu dal ei dir am rai misoedd, ac i'w bris ostwng i geiniog, er hyn oll gwanychu a darfod yr ydoedd y naill wythnos ar ol y llall, a'r canlyniad