Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a fu i Mr. John Lloyd, ei gyhoeddwr, yn y flwyddyn 1859, werthu ei hawl i Mr. T. Gee, Dinbych, a dyna ddiwedd Yr Amserau yn y ffurf oedd arno.

Yr Yspiwr, sef Adroddwr Newyddion a Rhyfeddodau o bob math, 1843.-- Daeth y rhifyn cyntaf o hono allan o'r wasg Ebrill 27ain, 1843, a'r ail rifyn Mai 23ain, 1843, ac ar ol hyny yn bymthegnosol, sef bob yn ail ddydd Mawrth, hyd y diwedd. Cyhoeddid ef ar ffurf llyfryn bychan, er mai newyddiadur ydoedd, yn cynnwys wyth tudalen, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd, golygid, ac argrephid ef gan y Parch. Hugh Jones, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd, Llangollen. Er mwyn rhoddi syniad am ei gynnwys a'i amcan nis gallwn wneyd yn well na difynu ychydig o'r geiriau eglurhaol sydd ar wyneb-ddalen ei rifyn cyntaf:— "At y Cymry,—Gydwladwyr hoff—Dichon mai buddiol fyddai taflu gair o anerchiad byr ar gychwyniad Yr Yspiwr i'r Dywysogaeth. Odid nad oes aml un yn barod i ofyn, Ond beth a wna hwn? Mewn atebiad dywedwn—fe wna hwn yr hyn ni wna yr un cyhoeddiad arall yn y Gymraeg: oblegid ni bydd a wnelo â dim mewn modd yn y byd, ond a newyddion yn unig; sef hanes y byd a'r amseroedd, damweiniau, a chyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle ar diroedd a dyfroedd, yn agos ac yn mhell. Felly ni bydd Yr Yspiwr yn drygu y naill gyhoeddiad nac yn rhedeg ar draws y llall, oblegid y mae efe yn cerdded wrtho ei hun, a'i gyfeiriad yn wahanol i bob un o'i gyfeillion..... Ymdrechwn roddi eithaf boddlonrwydd i'n darllenwyr oll, trwy ddethol allan y pethau hynotaf sydd yn digwydd yn y byd, trwy roddi digon o amrywiaeth hanesion yn mhob rhan, trwy fod yn ofalus i olrhain i wirionedd pob dim cyn ei gyhoeddi, a thrwy roddi llawer o fater mewn ychydig o le, sef y' swm anferth o 28,000 o lythyrenau yn mhob rhifyn." Fel