Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enghraipht i ddangos awydd cryf y cyhoeddwr hwn i gael cywirdeb yn ei newyddiadur gellir dyweyd mai un ammod, yn mhlith eraill, i ymddangosiad hanesyn ynddo ydoedd: "Nad oedd un hanes oddiwrth ddieithriaid i gael ymddangos yn Yr Yspiwr heb i un o'r dosparthwyr ei arwyddo fel gwirionedd." O ran defnydd, rhaid dyweyd mai papyr teneu a brau ydoedd, ac ni pharhaodd yn hir i ddyfod allan. Credwn yn sicr mai 83 o rifynau o hono a ddaeth allan, a hyd y gellir gweled, mai y rhifyn a gyhoeddwyd "dydd Sadwrn, Awst 3ydd, 1844," oedd yr olaf. Gwir fod ynddo ymgais at ddyfod â'r . darllenwyr i gysylltiad â digwyddiadau gwledydd tramor, eto rhaid credu mai lled gyffredin ydoedd am ei bris.

Y Figaro, 1843.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1843. Argrephid ef gan Mr. Robert Jones, argraphydd, Bangor, a golygid ef gan y Parch. Isaac Harris, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'r hwn oedd yn bugeilio ychydig o'r bobl a wrthgiliasent oddiwrth gynnulleidfa Dr. Arthur Jones, Bangor. Yr oedd y newyddiadur hwn, mewn maintioli, yn bedwar-plyg, a rhoddid cryn le i'r elfen Saesonig ynddo, er mai newyddiadur Cymreig yr ystyrid ef. Un o'i neillduolion ydoedd y ceid darluniau bron yn mhob rhifyn o hono, ac ymddiriedid y cerfluniau i Mr. John Roberts, argraphydd, a'r hwn ydoedd yn fab i'r hynod Mr. Robert Roberts (yr Almanaciwr), Caergybi. Pan ymddangosai ynddo ysgrif wawdlyd am unrhyw un—yr hyn a gymerai le yn fynych—byddai ynddo hefyd ddarlun o'r cyfryw. Ymddengys fod bardd o'r enw Edeyrn ab Nudd yn aros yn Bangor ar y pryd hwn, a digwyddodd iddo, yn nghyfarfod y Gymdeithas Gymroaidd Ddadleuol, ddyfod i wrthdarawiad â Mr. Isaac Harris, golygydd Y Figaro, a'r wythnos ddilynol ceid darlun gwawdus o'r Edeyrn yn Y Figaro. Darfu i hyn gyffroi holl natur Edeyrn