Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Herald Cymraeg, 1854.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1854—blwyddyn Rhyfel y Crimea—ac ar adeg dilead y dreth newyddiadurol, gan Mr. James Rees, argraphydd, Caernarfon, a golygid ef yn benaf, gan Mr. James Evans, Caernarfon. Ei bris, o'r dechreu, ydyw ceiniog Ei faintioli, ar ei gychwyniad, ydoedd pedair tudalen, wyth colofn, yn cyrhaedd dwy fodfedd -ar-bymtheg mewn hyd. Helaethwyd ef yn nechreu y flwyddyn 1859, trwy roddi colofn ychwanegol yn mhob tudalen, ac estynwyd hyd y colofnau i ugain modfedd a haner. Yn mis Ebrill, 1865, rhoddwyd wyth tudalen iddo, pum' colofn yn mhob un, a'r rhai hyny yn ddwy-fodfedd -ar-bymtheg a haner mewn hyd. Ychwangwyd ef drachefn yn Chwefror, 1878, trwy roddi colofn arall yn mhob tudalen, ac estynwyd hyd y colofnau i ddwy-ar-hugain a haner o fodfeddi. Helaethwyd ef yn y flwyddyn 1887, trwy roddi un golofn newydd yn mhob tudalen. Gwelwn eto, gyda y rhifyn a ddaeth allan Rhagfyr 9fed, 1890, fod pob colofn ynddo wedi ei hestyn fodfedd a haner, ac yr oedd hyn yn golygu helaethiad yn cyrhaedd oddeutu tair colofn a haner. Gwelwn fod y newyddiadur hwn wedi ei helaethu eto, trwy fod wyth colofn o ychwanegiad ynddo, a hyd yr holl golofnau wedi ei estyn. Dechreuodd hyn gyda y rhifyn a ddaeth allan ar Mehefin 7fed, 1892. Dyna faintioli presennol Yr Herald Cymraeg. Bu am rai blynyddoedd yn cael ei argraphu gan Mr. James Rees ei hunan, yna gan y Meistri Rees ac Evans, yna gan Mr. John Evans, Caellenor, ei hunan, ac yn awr argrephir ef, ar ran cwmni neillduol, gan Mr. Daniel Rees, High-street, Caernarfon. Bu amryw, heblaw Mr. James Evans, yn ei olygu, megis Mr. John James Hughes (Alfardd), Thalamus, Llew Llwyfo, ac yn awr, er's rhai blynyddoedd, golygir ef gan Mr. John Evans Jones,