Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Arweinydd, 1856.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Mehefin 5ed, 1856, a chyhwynwyd ef gan y Parch. H. Hughes (Tegai), Pwllheli, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Hughes a'i Gyf., Heol Penlan, Pwllheli. Ei arwyddair, yn ol ei wyneb-ddalen, ydoedd "Fy Arwyddair fo Rhyddid." Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn wythnosol. Ychydig gyda blwyddyn a fu hyd ei oes.

Baner Cymru, 1857, Baner ac Amserau Cymru, 1859.—Cychwynwyd Baner Cymru yn Mawrth, 1857, gan Mr. T. Gee, Dinbych, a golygid ef, ar y pryd, gan y Parch. W. Rees (Hiraethog). Deuai allan yn wythnosol—bob dydd Mercher, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Dylid dyweyd, yn y cysylltiad hwn, fod Yr Amserau, yr hwn a gyhoeddid yn Lerpwl, yn gweithio ei ffordd yn mlaen trwy anfanteision, a diau fod yr anfanteision hyny yn effeithio ar ei adnoddau arianol, nes yr oedd mewn perygl, ar y cyfrif hwn, am ei einioes. Gwyddis, ar y llaw arall, fod Baner Cymru yn cychwyn gyda rhagolygon disglaer, ac yn meddu cryfder tu cefn. Oherwydd y pethau hyn, ac yn enwedig oherwydd fod Yr Amserau a Baner Cymru yn sefyll dros yr un egwyddorion, ac wedi eu cychwyn i lafurio yn yr un maes ac i'r un amcanion, darfu i'r naill a'r llall, trwy ganiatad eu perchenogion, ddechreu ymgyfathrachu, a'r canlyniad a fu iddynt, cyn hir, uno mewn priodas, ac, ni gredwn, fod yr uniad hwn wedi troi allan yn un hapus, doeth, a thra llwyddiannus. Cymerodd hyn le ar Hydref 5ed, 1859, ac oddiar hyny hyd yn awr gelwir y newyddiadur helaeth hwn yn Baner ac Amserau Cymru, a daw allan yn wythnosol ar ddydd Mercher. Ei bris ydyw dwy geiniog. Dylid dyweyd fod y newyddiadur hwn wedi cael ei helaethu amryw weithiau