Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Walter Lloyd, argraphydd, Aberdar. Golygid ef, i ddechreu, gan Llew Llwyfo, ond ni pharhaodd ei olygiaeth ef yn faith, ac, yn ddilynol, bu dan olygiaeth amryw bersonau, megis Ieuan Gwyllt, Dewi Wyn o Esyllt, J. Davies (Aberaman), Islwyn, Brythonfryn, &c. Er y rhoddid lle ynddo i newyddion ac erthyglau ar bynciau y dydd, eto hanes yr Eisteddfodau, barddoniaeth, a beirniadaethau llenyddol, &c., a fyddai yn cael y lle blaenaf ynddo, a hyny, yn ngolwg rhai, ar draul gadael heibio bethau pwysicach. Byddai y llenor a'r a'r bardd, modd bynag, yn cael, ynddo flasus-fwyd fath a garent. Ystyrid ef am flynyddoedd meithion, fel un o'r newyddiaduron Cymreig mwyaf llewyrchus a dylanwadol, os nad y mwyaf felly ar y pryd, yn y Deheudir, a chaffai gylchrediad eang. Parhaodd i fyned yn mlaen hyd oddeutu y flwyddyn 1883, pryd, ar gyfrif rhesymau teuluaidd a chyfrinachol, y rhoddwyd ef i fyny yn fuan ar ol marwolaeth ei berchenog

Y Punch Cymraeg, 1858.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ionawr 1af, 1858, a chychwynwyd ef, yn benaf, gan Mr. Lewis Jones (Caernarfon), y pryd hwnw yn aros yn Nghaergybi, a'r hwn, erbyn hyn, sydd yn Patagonia, a darfu i Mr. Evan Jones (y Parch. Evan Jones, Caernarfon, erbyn hyn) ymuno âg ef. Hwy yn nghyd oeddynt ei olygu, ас yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ac yn ei argraphu yn eu swyddfa yn Nghaergybi. Ei faintioli ydoedd wyth tu dalen pedwar—plyg, a deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd ceiniog Dangosid cryn allu yn ei ysgrifau, a nodweddid hwy, yn benaf, gan watwareg lem a phersonol, ac, ar brydiau, diau y cerid hyny i eithafion. Ymddengys y caffai dderbyniad croesawgar gan y wlad, canys cawn fod ei gylchrediad, ar un adeg, yn