Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel golygydd am flwyddyn. Ni pharhaodd Y Goleuad i gael ei argraphu yn Nghaernarfon ond am dair blynedd, pryd, yn Hydref, 1872, y cymerwyd ef gan Mr. D. H. Jones, argraphydd, Dolgellau, a bu dan olygiaeth y Parch. Evan Jones, Caernarfon (Dyffryn y pryd hwnw), am y pedair blynedd dilynol. Ceir, yn haf y flwyddyn 1884, fod cyfnewidiad arall wedi cymeryd lle, trwy i Mr. D. H. Jones drosglwyddo Y Goleuad i Mr. E. W. Evans, cyhoeddwr, Dolgellau, yr hwn sydd yn parhau i'w gyhoeddi, ac i'w arolygu, hyd yn bresennol. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ymddengys, ar y cyfan, mewn ystyr fasnachol, mai lled aflwyddiannus a fu sefydliad Y Goleuad yn ei flynyddoedd cyntaf. Er mai gan aelodau perthynol i gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd y cychwynwyd y newyddiadur hwn, ac er mai hanes symudiadau Methodistaidd a geir fwyaf ynddo, ac er mai gweinidogion a lleygwyr y Cyfundeb hwnw sydd yn arfer ysgrifenu iddo, ac mai yn mhlith y Methodistiaid y derbynir ef, &c., eto dylid cofio nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhwng y Cyfundeb, fel Cyfundeb, ag ef. Er y dywedir, ar ei wyneb—ddalen, ei fod "at wasanaeth crefydd, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a moesau, " eto, rhaid addef, ei fod yn edrych ar y pethau hyny, i raddau pell, oddiar safbwynt y Cyfundeb Methodistaidd, a chan ei fod yn amcanu at wasanaethu y Cyfundeb hwnw, ac ar yr un pryd, heb unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol rhyngddynt, ac felly ddim yn rhwym, o angenrheidrwydd, i gael ei nawdd a'i gefnogaeth, nis gall hyn oll lai na bod yn elfen yn ei wendid mewn ystyr arianol, ac, efallai, mewn ystyr lenyddol hefyd.

Y Twr, 1870.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1870, gan Mr.Josiah Thomas Jones, Aberdâr, yr hwn hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi, ac yn ei argraphu. Yn bymthegnosol y deuai allan, ond prin y