Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parhaodd am yspaid dwy flynedd. Rhoddid lle helaeth ynddo i'r elfen grefyddol, ac ysgrifenid iddo gan amryw weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau.

Y Dywysogaeth, 1870; Y Llan, 1881; Y Llan a'r Dywysog aeth, 1882.—Cychwynwyd Y Dywysogaeth yn y flwyddyn 1870, gan gwmni Eglwysig, ac argraphwyd ef, ar y cychwyn, am ychydig amser, gan Mr. William Morris, Dinbych, ac yna symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Mr. Morris, argraphydd, Rhyl. Ymddengys ei fod, yn y cyfnod hwn, dan olygiaeth Mr. Hugh Williams (Cadfan), Rhyl. Symudwyd ef drachefn i'w argraphu i Caerdydd. Cychwynwyd Y Llan yn nechreu y flwyddyn 1881, dan olygiad y Parch. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), Llangwm, ac argrephid ef gan Mr. E. Roe, Gwrecsam, a chan fod Y Dywysogaeth a'r Llan yn gweithio ar yr un maes, ac i raddau helaeth yr un derbynwyr i'r naill a'r llall, a chanfod tuedd yn nghylchrediad y naill i effeithio ar gylchrediad y llall, credwyd mai doeth a fuasai eu cysylltu, a gwneyd un newyddiadur o honynt; ac yn y flwyddyn 1882, daeth y rhifyn cyntaf allan, ar ol y briodas, dan yr enw, Y Llan a'r Dywysogaeth, yn cael ei argraphu gan y Meistri Farrant a Frost, 135, High Street, Merthyr Tydfil, ac hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1890, golygid y newyddiadur hwn, yn benaf, gan Elis Wyn o Wyrfai, ond golygir ef, ar hyn o bryd, gan y Parch. Ll. M. Williams, periglor Dowlais. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Ymddengys y cyhoeddir ef dan nawdd pwyllgor Eylwysig (llen a lleyg), a dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "newyddiadur Eglwysig a chyffredinol at wasanaeth y Cymry," a chredir ei fod, ar y cyfan, yn cael cylchrediad gweddol yn mhlith aelodau yr Eglwys Sefydledig.

Y Gwyliwr, 1870.—Yn Chwefror, 1870, y cychwynwyd y newyddiadur hwn, ac argrephid ef gan Mr. Jenkin