Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wlad, modd bynag, yn y cyfnod hwn i gael gwell cylchrediad nag erioed; ond rhoddwyd ef i fyny yn Awst, 1884, nid oherwydd diffyg cefnogaeth, ond ar gyfrif rhesymau personol a chyfrinachol.

Tarian y Gweithiwr, 1875.—Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan ar Ionawr 15fed, 1875, a daw allan yn wythnosol, bob dydd Iau—a chyhoeddir ac argrephir ef gan y Meistri Mills ac Evans, argraphwyr, Aberdâr. Mae yr olygiaeth, yn benaf, yn gorphwys ar Mr. J. Mills, un o'r cyhoeddwyr, ac ysgrifenir ei erthyglau arweiniol gan y Parch. John Morgan Jones, Caerdydd, a deallwn fod ei farddoniaeth, ar hyn o bryd, dan ofal Mr. Thomas Williams (Brynfab), Pontypridd. Ei bris ydyw ceiniog. , Ei arwyddair ydyw:—" Nid amddiffyn ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder." Ystyrir ef yn hollol Gymreig a chenedlaethol, dywedir mai Tarian y Gweithiwr ydyw y newyddiadur Cymreig a gyrhaeddodd y cylchrediad helaethaf erioed yn y Deheudir. Ceir ynddo erthyglau arweiniol bob wythnos ar bynciau y dydd, ac heblaw y newyddion cartrefol a thramor, &c., ceir ynddo lawer iawn o'r elfen weithfaol a masnachol—hanes marchnadoedd, safon cyflogau, gwerthiant, pryniant, a'r prif symudiadau yn nglyn â'r glo, haiarn, plwm, &c., fel—rhwng yr oll—y gellir dyweyd ei fod yn amcanu yn deg dyfod i fyny â chynnwys ei enw—Tarian y Gweithiwr.

Y Chwarelwr, 1876,—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1876, gan Mr. Richard Owen, llyfrwerthydd, Llanberis, yr hwn hefyd oedd yn ei arolygu ac yn ei argraphu. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Amcan ei gychwyniad ydoedd gwasanaethu chwarelwyr Gogledd Cymru, ond ni ddaeth allan ohono ond prin ugain rhifyn, ac achosodd golled i'w gyhoeddwr.