Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Genedl Gymreig, 1877.—Cychwyrwyd y newyddiadur hwn oddeutu gwanwyn y flwyddyn 1877, gan gwmni Cymreig perthynol i'r Blaid Ryddfrydig, ac ymddengys mai un o'r prif gychwynwyr, os nad y prif un, ydoedd Mr. Hugh Pugh, Llysmeirion, Caernarfon, ac argrephid ef, ar ran y cwmni, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Ysgrifenid iddo, ac arolygid ef, yn benaf, y pryd hwnw, gan y Meistri J. Davies (Gwyneddon), Caernarfon; W. Cadwaladr Davies, Bangor; a'r Parch, Evan Jones, Caernarfon. Darfu i'r perchenogion, yn Ebrill 1881, werthu y swyddfa a'r hawl yn Y Genedl Gymreig i Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, yr hwn oedd yn un o'r cyfranddalwyr o'r cychwyniad, ac yn y flwyddyn 1884 prynwyd y newyddiadur hwn drachefn gan gwmni a elwid yn Gwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyfyngedig), a pharheid i'w argraphu gan Mr. D. W. Davies a'i Gwmni, ac arolygid y newyddiadur, ar ran y cwmni, gan Mr. David Edwards, Caernarfon, ac wedi hyny gan Mr. John Owen Jones (Ap Ffarmwr), Caernarfon. Yn Ionawr, 1892, ceir fod Mr. Lloyd-George, A.S., dros gwmni yn cael ei wneyd i fyny o rai Aelodau Seneddol Cymreig, ac eraill, wedi prynu Y Genedl Gymreig, a rhai newyddiaduron eraill a gyhoeddir yn yr un swyddfa, ac y mae Mr. Beriah Gwynfe Evans, ysgrifenydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yr hwn a fu am flynyddoedd yn golygu The Cardiff Times, wedi symud i Gaernarfon, er dechreu y flwyddyn 1892, i weithredu fel golygydd i'r newyddiaduron a brynwyd dros y cwmni, gan Mr. George, a chynnorthwyir ef, fel is-olygydd, gan Mr. J. O. Jones (Ap Ffarmwr), Caernarfon. Dylid dyweyd fod barddoniaeth y newyddiadur hwn, drwy yr holl flynyddoedd, dan ofal Mr. J. Thomas (Eifionydd), Caernarfon. Daw Y Genedl Gymreig allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Helaethwyd ei faintioli yn Tachwedd, 1890. Dywedir fod