Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo gylchrediad uchel. Y Cyfarwyddwyr presennol (1892) ydynt Dr. Edward Jones, Dolgellau; Henadur T. C. Lewis, Bangor; Cynghorwyr W. J. Parry, Bethesda; Edward Thomas (Cochfarf), Caerdydd; a Mr. Mr. J. R. Pritchard, Porthmadog. Yn nglyn â'r cyfnewidiadau yn ei berchenogaeth, gellir dyweyd iddo gael ei helaethu gryn lawer yn ei faintioli, ac yn awr ceir fod yn mhob tudalen (wyth) ohono naw colofn. Rhoddir ynddo lawer o sylw i'r deffroad Cymreig—yn ei wahanol agweddau, ac y mae yn honi bod yn genedlaethol hollol, ac yn ymdrechu yn ddiwyd bod er mantais i Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth. Ceir, yn yr anerchiad olygyddol i'r rhifyn a ddaeth allan Chwefror 10fed, 1892, yr ymadroddion canlynol: "Gyda'r rhifyn presennol mae Y Genedl Gymreig yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes. Hyd yma nid oes yr un newyddiadur, pa un bynag ai Cymraeg ai Saesoneg yw, wedi medru gwasanaethu yr holl genedl Gymreig, nac yn wir wedi gwneyd cais priodol at hyny. Amcan Y Genedl Gymreig bellach fydd llanw y bwlch hwn yn newyddiaduraeth Cymru.... Y cwestiwn oedd yn ymgynnyg i'n meddwl wrth drefnu ein cynlluniau am y dyfodol oedd—Pa fodd y gellir yn creu gynnrychioli pob rhan o Gymru yn y papur? Wrth ystyried y cwestiwn yn fanwl, daethom i'r penderfyniad mai y ffordd fwyaf effeithiol i gyrhaedd yr amcan hwn oedd cyhoeddi dau argraphiad, y naill i'r Gogledd a'r llall i'r De. Tra y cynnwysa y naill argraphiad fel y llall yr holl newyddion cyffredinol pwysicaf—ac yn arbenig felly newyddion Cymreig—bydd gan bob un o'r ddau ei neillduolion ei hun......Cymru yn un, a'r Cymry yn genedl—a'u hawliau a'u dyledswyddau fel y cyfryw—hyn fydd prif linell y ddysgeidiaeth a geir yn ein colofnau, hon yw y genadwri y teimlwn mai swyddogaeth Y Genedl Gymreig yw ei thraethu."