Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Gwyliedydd, 1877.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Mawrth 2il, 1877. Cychwynwyd ef gan gwmni o weinidogion a lleygwyr Wesleyaidd, ac, yn gyffredin, golygid ef gan y gweinidogion a ddigwyddent fod ar gylchdaith Rhyl, yn yr hon dref yr argrephid ef, dros y cwmni, gan y Meistri Amos Brothers, 12, Heol Sussex. Golygid ei farddoniaeth, ar y cychwyn, gan Clwydfardd, a gellir enwi y Parch. John Jones (Vulcan) fel un o'r prif hyrwyddwyr dechreuol. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn wythnosol ar ddydd Gwener. Er egluro y safle ar ba un y cychwynwyd ef, nis gellir gwneyd yn well na difynu ychydig eiriau o'r erthygl dan y penawd " At ein Darllenwyr," yn y rhifyn cyntaf:—" Y mae trefniant effeithiol wedi ei wneyd gan arweddwyr Y Gwyliedydd i'w gyflenwi âg erthyglau arweiniol gan rai o weinidogion a lleygwyr blaenaf y Cyfundeb; a bydd yr erthyglau hyny yn cymeryd i mewn, o dro i dro, symudiadau gwleidyddol yn Mhrydain a'r Cyfandir; amgylchiadau eglwysig o fewn Cyfundeb y Wesleyaid yn arbenigol, a symudiadau eglwysig enwadau eraill; ffurflywodraethau Eglwysig, Defodaeth, Pabyddiaeth, &c.; cymerant olwg manwl a gofalus hefyd ar symudiadau duwinyddol, athronyddol, a gwyddonol y byd, a daw llenyddiaeth Gymreig a chyffredinol i gael ei theyrnged hithau yn brydlawn a ffyddlawn." Gwelir, er fod y newyddiadur hwn wedi ei gychwyn i wasanaethu y Wesleyaid yn Nghymru, eto nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo, fel y cyfryw, â'r Cyfundeb hwnw. Ceir, erbyn hyn, fod y cwmni a ddarfu ei gychwyn wedi ymneillduo oddiwrtho, a'i fod, yn awr, yn eiddo personol ei gyhoeddwyr.

Y Rhedegydd, 1877.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn y flwyddyn 1877, a chychwynwyd ef gan Mr. W. Lloyd Roberts, argraphydd, Blaenau Ffestiniog, ac efe