Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd sydd yn parhau i'w gyhoeddi. Golygir ef, ar hyn o bryd, gan Mr. R. O. Hughes (Elfyn), Blaenau Ffestiniog. Daw y newyddiadur hwn allan bob dydd Sadwrn, a'i bris ydyw dimai. Dywedir, ar ei wyneb ddalen, mai "newyddiadur wythnosol Siroedd Meirion, Arfon, a Dinbych," ydyw, ac felly gwelir mai nodwedd leol sydd iddo, ac fel newyddiadur lleol mae iddo gylchrediad da.

Y Celt,1878—Cychwynwyd y newyddiadur wyth nosol hwn yn Mai, 1878 Golygid ef, a gofelid amdano, yn benaf, gan S. R., ac argrephid ef gan Mr. Hugh Evans, cyhoeddwr, Bala. Symudwyd y newyddiadur hwn, yn fuan, i gael ei argraphu yn Nghaer narfon, a thra yno, rhywfodd, newidiodd yr amgylch iadau, a syrthiodd Y Celt i lewyg; ond ymddengys nad ydoedd yn llewyg i farwolaeth, gan ei fod, yn lled fuan, wedi ail—gychwyn bywyd yn swyddfa y Meistri Golygid ef, yn ystod yr adeg Amos Brothers, Rhyl. hon, gan Dr. Pan Jones, Mostyn. Symudwyd ef drachefn, oddeutu blwyddyn a haner ar ol hyny, i gael ei argraphu, ar ran y Cwmni (nifer yn perthyn i'r Annibynwyr) sydd yn ei berchenogi, gan Mr. Samuel Hughes, York Place, Bangor, gan yr hwn y parheir i'w gyhoeddi. Bu am yspaid, yn y cyfwng hwn, dan olygiaeth y Parch. D. S. Davies, Bangor, ond ar ei symudiad ef i Gaerfyrddin, ymgymerodd y Parch. W. Keinion Thomas, Llanfairfechan, a'r olygiaeth, ac efe sydd yn parhau i'w olygu. Mae y newyddiadur hwn, yn benaf, dan nawdd rhai yn perthyn i'r Annibynwyr, ac yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf. Ceiniog ydyw ei bris. Bu ddwywaith, ar gyfrif cyfeiriadau a dybid eu bod yn gableddus, yn ngafael cyfraith y wlad, a dirwywyd ef yn drwm y ddau dro. Ymddengys fod dau chwarelwr, yn byw yn Bethesda, Arfon, wedi cael