Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwe' mis o garchar am bysgota yn anghyfreithlawn, a gomeddwyd iddynt gael dyfod drachefn i weithio i'r chwarel, a throwyd ymaith un o honynt o'i dŷ—tŷ a adeiladwyd gan dad y dyn hwn ar ddeng-mlynedd-ar hugain o brydles, &c., a phan welodd Dr. Pan Jones yr hanes hwn yn y newyddiaduron, efe a ysgrifenodd i'r Celt erthygl gref yn condemnio Arglwydd Penrhyn hyn oll, a'r canlyniad a fu i'r ysgrifenydd gael ei wysio am gabledd, a gorfu iddo dalu deg punt o iawn, a dros i dri chan' punt fel treuliau. Dyna y cyhuddiad cyntaf. Yr ail gyhuddiad cyfreithiol ydoedd yn nglyn â Chyfarfod Chwarterol Annibynwyr Arfon. Ymddengys fod cynnygiad yn nghylch cael Hunan lywodraeth i'r Iwerddon wedi ei ddwyn gerbron y Cyfarfod Chwarterol, a bod Dr. Williams, Bethesda, wedi gwrthwynebu yn llym i'r mater hwn gael ei ddwyn o gwbl gerbron y cyfarfod, gan ddal mai nid mewn cynnulliadau crefyddol y dylid trafod a phender fynu y fath faterion. Darfu i'r Parch. W. Keinion Thomas, modd bynag, ysgrifenu erthygl gref i'r Celt yn condemnio Dr. Williams yn ddiarbed, ac yn dal, yn mhlith pethau eraill, ei fod yn euog o aflonyddu cymdeithas, &c. Gwysiwyd Mr. Keinion Thomas, mewn canlyniad i'r ysgrif hon, a gorfu iddo yntau dalu can punt o iawn, a threuliau trymion. Gwelir felly fod hanes Y Celt yn un lled ystormus, a'i fod wedi myned trwy bethau chwerwon, er nad yw ond ieuanc; ac eto, er yr oll, mae yn dal i ddadleu, gydag yni, yn mhlaid egwyddorion Annibyniaeth, ac yn erbyn pobpeth a dybia ef fydd yn ormes a gorthrwm.

Gwalia, 1881.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1881, gan gwmni perthynol i'r blaid Geidwadol, ac arolygid ac argrephid ef dros y cwmni, gan Mr. Robert Williams, Turf Square, Caernarfon.