Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Symudwyd ef, ar ol ychydig flyryddau, i gael ei argraphu yn swyddfa y Meistri Douglas, Bangor, ac argrephir ef, yn bresennol dros y North Wales Chronicle Company (Limited), gan Mr. David Williams, Canton House, Bangor. Ceir fod Llew Llwyfo, ar ol Mr. Robert Williams, wedi bod yn gofalu llawer am dano, ac yna bu dan olygiaeth Mr. Thomas Hughes, Bangor. Wedi hyny, am ychydig amser, bu Mr. Humphreys, Bangor, yn ei ar olygu, ac yna rhoddwyd ei olygiaeth i Mr. Robert Hughes, Bangor, ac, hyd y gwyddom, felly y mae yn parhau. Daw y newyddiadur hwn allan yn wythnosol bob dydd Mercher, a'i bris ydyw ceiniog. Er y dywedir, ar ei wyneb—ddalen, ei fod yn " newyddiadur at wasanaeth pob dosparth o'r Cymry," eto mae yn ddealledig ei fod, yn benaf, yn gyfrwng gwasanaethgar i'r Eglwys Sefydledig yn Nghymru, ac yn Geidwadol ei amcanion. Mae yn newyddiadur helaeth. Ceir ynddo erthyglau arweiniol, hanes gweithrediadau y Senedd, Llythyr yr "Hen ŵr o'r Coed," Barddoniaeth, Nodion o Rhydychain, Rhamant ar "Morris Llwyd o'r Cwm Tawel," Pigion Americanaidd, Marchnadoedd yr Wythnos, Ffeiriau Cymru, a'r Newyddion, &c.

Yr Amseroedd, 1882.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Rhayfyr 30ain, 1882, a chychwynwyd ef gan y Parch. Evan Jones, Caernarfon, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ac argrephid ef dros ei berchenog, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Eiddo personol y Parch. Evan Jones ydoedd y newyddiadur hwn, ond ar ddiwedd y flwyddyn 1884 trosglwyddwyd ei berchenogaeth i law Mr. D. W. Davies, ei argraphydd, a bu y Parch. R. D. Rowlands (Anthropos), Caernarfon, yn olygydd iddo, ond ni pharhaodd i ddyfod allan, ar ol hyn, yn hwy nag oddeutu chwe' mis. Oddeutu dwy flynedd a haner a fu