Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes Yr Amseroedd o'r dechreu. Ceid ynddo un-ar-bymtheg o dudalennau pedwar plyg, a deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bu ei gylchrediad unwaith yn cyrhaedd dros bum' mil. Darfu i Mr. Jones ei roddi i fyny, nid oherwydd diffyg cefnogaeth, ond ar gyfrif amledd galwadau ei swydd weinidogaethol. Dywedid, ar ei wyneb-ddalen, ei fod "at wasanaeth crefydd , llenyddiaeth, a gwleidyddiaeth," ac, ar y cyfan, cadwodd at yspryd y geiriad hwn, a chredwn, wrth ystyried pob peth, mai colled i lenyddiaeth newyddiadurol Cymru ydoedd iddo gael ei roddi i fyny mor fuan.

Y Gweithiwr Cymreig, 1885.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn nechreu Ionawr, 1885, a chychwynnwyd ef gan Mr. Jenkin Howell, cyhoeddwr, Aberdâr. Efe oedd ei berchennog, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog Bu Mr. Beriah Gwynfe Evans yn ysgrifennu iddo erthyglau arweiniol, ond gyda'r eithriad hwn, a thair neu bedair eraill, y sgrifennwyd yr oll o honynt gan Mr. Howell ei hunan. Golygid ei farddoniaeth gan Dafydd Morganwg. Ceir fod y newyddiadur hwn, yn ei egwyddorion gwleidyddol, yn Rhyddfrydol. Parhaodd i ddyfod allan hyd ddiwedd Medi, 1888, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Y Gwladwr Cymreig, 1885.-Cychwynwyd y newyddiadur hwn ar Ionawr 22ain, 1885, gan y Meistri Rees a'i Fab, argraphwyr, Ystalyfera, a hwynt hwy oedd yn ei argraphu. Golygid ef, am y deng wythnos cyntaf gan y Parch. D. Onllwyn Brace, am y pum' wythnos dilynol gan Mr John Dyfrig Owen, ac am yr amser gweddill gan y Parch. J. T. Morgan (Thalamus). Ond, er y cwbl, ymddengys mai oes fer oedd iddo, gan mai y rhifyn am Medi 24ain, 1885, oedd yr olaf a ddaeth allan.