Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Seren, 1885.—Cychwynwyd Y Seren yn Ebrill, 1885, gan y Meistri Evans a Davies, cyhoeddwyr, Bala, a hwy sydd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Sadwrn, a'i bris ydyw dimai. Newyddiadur lleol ydyw yn dal cysylltiad neillduol â'r Bala a'r amgylchoedd, a deallwn fod iddo gylchrediad lled dda.

Y Werin, 1885.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Hydref 17eg, 1885, gan yr un cwmni ag oedd yn cyhoeddi Y Genedl Gymreig, ac yr ydym yn deall ei fod, erbyn hyn, wedi myned trwy yr un cyfnewidiadau yn ei berchenogaeth a'i olygyddiaeth â'r newyddiadur hwnw. Argrephir ef, dros y cwmpi, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Bu y Parch. Evan Jones, Gaerwen (Llangristiolus yn awr), yn ei olygu am y blynyddoedd cyntaf, ac, er hyny, mae wedi bod, yn benaf, dan yr un olygiaeth â'r Genedl Gymreig. Math o argraphiad rhad, pris dimai, ydyw Y Werin, ac yn dyfod allan ar ddiwedd pob wythnos, a buasid yn tybio mai ei brif amcan, fel y dynoda ei enw, ydyw cyrhaedd y lluaws, ac ystyrir ef yn hynod Ryddfrydol yn ei wleidyddiaeth.

Yr Wythnos, 1886.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1886, gan Mr. T. Edmunds, argraphydd, Corwen. Bu y Parch. H. C. Williams (Hywel Cernyw), Corwen, yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo am y flwyddyn gyntaf, ond rhoddes ef y cyfan i fyny ar ddechreu yr ail flwyddyn. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Newyddiadur lleol ydyw, yn rhoddi hanes digwyddiadau ac amgylchiadau y cylchoedd.

Y Gadlef, 1887.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ebrill 7fed, 1887, ac argrephir ef, ar ran ei berchenogion, gan Mr. Daniel Rees, High-street,