Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caernarfon. Golygir af, o'r dechreu, gan Mr. Owen Williams, Caernarfon. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "gyhoeddiad swyddogol Cymreig Byddin yr Iachawdwriaeth," ac felly gellir edrych arno fel eiddo y Fyddin, a sefydlwyd ef er gwasanaethu aelodau Cymreig Byddin yr Iachawdwriaeth, a newyddion yn dal cysylltiad â hwy ydyw ei gynnwys bron yn gwbl. Ei bris ydyw ceiniog.

Udgorn Rhyddid, 1888.-Cychwynwyd y newyddiadur bychan hwn yn y flwyddyn 1888, dan olygiaeth Mr. Lewis D. Roberts, Pwllheli, ac argrephir ef gan Mr. Richard Jones, Penlau-street, Pwllheli. Daw allan yo wythnosol, a'i bris ydyw dimai. Er y dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "newyddiadur cenedlaethol Cymreig," eto y mae yn amlwg mai lleol, yn benaf, ydyw ei nodwedd, a chaiff dderbyniad da yn yr amgylchoedd.

Y Dinesydd, 1889.-Daeth y newyddiadur hwn allan yn Medi, 1889, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. W. W. Lloyd, argraphydd, Lerpwl, a golygid ef gan Mr. Edmand Griffiths, Lerpwl. Hollol lleol ydoedd ei nodwedd-newyddiadur bychan dimai, ac ni pharhaodd ond am oddeutu naw mis.

Y Cymro, 1890.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Mai 22ain, 1890, a chychwynwyd ef gan Mr. Isaac Foulkes (Y Llyfrbryf), Lerpwl, yr hwn hefyd sydd yu ei olygu ac yn ei argraphu, a'r Parch. H. Elvet Lewis, Llanelli, yn golygu ei farddoniaeth. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Iau, a'i bris ydyw ceiniog. Mae hwn yn newyddiadur cenedlaethol, a deallwn fod ei gylchrediad eisoes yn cyrhaedd yn uchel, yn enwedig wrth gofio mai yn ddiweddar y cychwynwyd ef. Yn ei rag-hysbysiad am dano dywed Mr. Foulkes:—"Bydd gan y Cymro ei ddull ei hun o ddyweyd ei neges a thraddodi ei genadwri. Cefnoga bob