Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honynt yn ddim amgen na marw-anedig, ac am eraill, y rhai a barhaent am ychydig yn hwy, yr oeddynt mor eiddil, di-nerth, a di ddylanwad, fel mai prin y gellir dyweyd, yn onest, eu bod wedi byw erioed. Os ydym wedi gadael allan o'r rhestr uchod unrhyw newyddiadur, a fu neu sydd, o bwys—ac nid ydym yn honi perffeithrwydd nid oes genym ond datgan ein gofid, a gwnaethpwyd hyny yn hollol anfwriadol; ond yr ydym yn gobeithio, ar y cyfan, fod y rhestr yn lled gyflawn a chywir, yr hyn oedd genym mewn golwg yn barhaus yn yr ymchwiliad.