Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

DYLANWAD Y NEWYDDIADUR CYMREIG AR FYWYD Y GENEDL

GAN ein bod eisoes, ar y dechreu, wedi dangos gwerth, cyfleusdra, a dylanwad y wasg, mewn ystyr gyffredinol, bwriadwn, yn yr adran hon, ddisgyn ar unwaith i ymdrin â dylanwad newyddiaduron Cymru ar fywyd y genedl Gymreig Efallai, cyn dyfod yn hollol uniongyrchol at hyn, mai nid anmhriodol fydd ceisio cyffwrdd â rhai o'r diffygion a'r rhagoriaethau sydd yn nodweddu ein llenyddiaeth newyddiadurol, a diau fod yr elfenau hyny, mewn rhyw ffordd neu gilydd, er, efallai, yn anunion- gyrchol, yn cario dylanwad ar fywyd Cymru.

1. Diffygion. Mae lluaws ohonynt yn dangos

(a) Awydd anghymedrol at ddwyn elw i'r cyhoeddwyr. Dywedodd un awdwr, nid anenwog, wrth draethu am danynt, y "sefydlir newyddiadur fel anturiaeth fasnachol yn unig." Nid ydym yn credu fod hyn yn hollol gywir yn mhob achos, eto ofnwn fod llawer gormod o wirionedd yn y sylw. Meddylier am rif y newyddiaduron a gychwynwyd yn Nghymru: yr ydym eisoes wedi olrhain hanes rhai ugeiniau, er na chychwynodd hyd yn nod y cyntaf ohonynt cyn y flwyddyn 1814. Cofier, wrth wneyd y sylw hwn, ein bod yn credu mewn cael newyddiaduron—ystyriwn hyn yn un o anhebgorion cymdeithas, a chredwn fod amledd newyddiaduron yn ddiogelwch i fuddiannau gwlad; ond, ar yr un pryd,