Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

credwn fod llawer o honynt wedi cael eu cychwyn heb ddim anghen am danynt, ac y gallesid cario yn mlaen yn rhwydd hebddynt. Gall fod llawer wedi eu cychwyn oddiar eiddigedd at lwyddiant eu gilydd, ac awydd dynion i ymgyfoethogi drwyddynt. Onid ellid gwneyd yn hawdd ar lawer llai Rhaid i ni addef ein bod yn amheu hawl aml un o honynt i ymddangos gerbron y cyhoedd, a thaeddir ni i ofyn—O ba le y daethost? Pwy alwodd am danat? Pa waith sydd i ti? Mae yn rhaid fod yr amledd di-alw-am-dano hwn yn anfantais iddynt i gael dylanwad ar y genedl, a chredwn y buasai cael ychydig o newyddiaduron Cymreig da, galluog, a llawn, yn cael argraph ddyfnach ar ein bywyd cenedlaethol. Beth hefyd am yr hysbysiadau (advertisements) dirif sydd ynddynt bob wythnos? Ceir pob math ohonynt am y masnachdai dillad (a rhyfedd mor ddoniol ydynt), olew, dodrefn, llysiau, cyfferiau, llyfrau, papyrau —lluaws am y teilwriaid, adeiladwyr, ysgolfeistriaid, meddygon, oriadurwyr, organwyr, gofaint, cryddion, seiri, gwerthwyr pibelli, myglys, &c., &c. Na chamddealler hyn, canys gwyddom, yn sicer, fod yn rhaid i'r cyhoeddwyr wrth hysbysiadau yn eu newyddiaduron i'w digolledu, a ffolineb ynddynt fyddai bod yn eu colled, os gallant osgoi hyny; ond eto ofnir fod rhai ohonynt yn rhoddi gofod gormodol i'r pethau hyn, nes y gorfodir dynion, ambell waith, i gredu mai yr elfen fasnachol sydd wrth y gwraidd yn fwy na dim arall. Nid ydym yn sicr na roddir gormod o bwys ar yr hysbysiadau hyn, drwy eu gwneyd yn faen-prawf ymddygiad rhai o'r newyddiaduron yn nglyn â'r personau fydd yn talu am eu dodi ynddynt. Annheilwng ydyw canmol llyfr, mewn adolygiad, am yr unig reswm fod awdwr y llyfr yn rhoddi hysbysiad (advertisement) am y llyfr hwnw yn y newyddiadur hwnw. Clywsom Aelod