Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seneddol Cymreig, yr hwn a saif yn uchel, ac yn dra chymeradwy, yn sicrhau iddo ef nacau roddi ei anerchiad i'w etholwyr mewn ffordd o hysbysiad (advertisement) taledig i swyddfa argraphu neillduol, oherwydd, yn benaf, afresymoldeb eu telerau arianol am y cyfryw, a'r canlyniad a fu i newyddiaduron y swyddfa hono nacau rhoddi unrhyw gyhoeddusrwydd—y nesaf peth i ddim—i'w areithiau, er, cofier, fod y newyddiaduron hyny yn honi bod o'r un golygiadau gwleidyddol â'r boneddwr hwnw. Anwybyddid ei gyfarfodydd, ac ni roddwyd unrhyw gefnogaeth iddo gan y newyddiaduron hyny, cyn belled ag yr oedd eu dylanwad hwy yn myned, tuagat sicrhau ei lwyddiant yn yr etholiad hwnw, er iddo, drwy y cyfan, fod yn llwyddiannus, ac y mae yn y Senedd, yn gweithio yn dda, er's rhai blynyddoedd bellach. Clywsom ef ei hunan yn bersonol yn adrodd yr uchod, ac yr ydym yn nodi y ffaith hon, fel enghraipht, i ddangos fod sail dros yr ofnad fod llawer o'r newyddiaduron Cymreig yn edrych gormod ar symudiadau cyhoeddus trwy ddrych hunan-les ac elw. Peth gwael ydyw i newyddiadur wasgu ar ddyn am na buasai yn dodi ei hysbysiadau (advertisements) ynddo, a chredwn nad yw yn egwyddor iachus i weithio arni. Dylent gael elw, ac y mae yn iawn iddynt gael elw, ond nid hyny sydd i fod yn brif beth yn nglyn â symudiad yr honir ei fod yn cychwyn er lles a mantais y cyhoedd.

(b) Ymyraeth gormodol yn amgylchiadau personol y bobl. Credwn, yn bendant, fod y newyddiaduron i arwain y wlad ar faterion y dydd, a disgwylir iddynt gynnorthwyo y cyhoedd i ffurfio barn ar yr hyn a fydd yn destyn sylw ar y pryd, a chredwn yn rhyddid y wasg; ond eto nid ydym yn barnu fod yn iawn, nac yn ddoeth, i unrhyw newyddiadur gymeryd mantais ar y rhyddid hwnw i fyned rhwng gwahanol adranau