Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn cymdeithas, os na bydd amgylchiadau neillduol yn galw am hyny. Gwneir yn dda wrth amddiffyn y gwan, achub cam y gorthrymedig a'r tlawd, ac ymosod yn erbyn gorthrwm, yn mha ffurf bynag y ceir ef— dylent wneyd, a dylai y wlad fod yn ddiolchgar iddynt am wneyd; ond, wrth geisio amddiffyn y naill a cheryddu y llall, mae yn ddigon posibl iddynt fyned yn rhy bell i amgylchiadau personol y pleidiau, a hyny yn ddi-achos, a gwneyd niwed wrth geisio gwneyd lles, a chyn y diwedd, bod yn foddion i gynnyrchu drwg deimladau a cham-ddealltwriaeth, nes chwerwi teimladau y naill ddosparth tuagat y llall, ac felly, mewn canlyniad, wanychu mewn argraph dda ar yr holl wahanol ddosparthiadau mewn cymdeithas. Oni ddylai newyddiaduron fod yn ochelgar iawn ar adegau sefyll allan (strikes)? Beth am feithrin teimladau da rhwng y meistr a'r gweithiwr? Disgwylir i newyddiaduron gymeryd eu safle yn gryf i amddiffyn y gorthrymedig, ond dylent fod yn ofalus iawn, yn enwedig mewn amgylchiadau pwysig a difrifol, ac ystyried eu cyfrifoldeb, gan astudio beth sydd yn fwyaf rhesymol, doeth, a diogel, cyn dechreu argymhell unrhyw lwybr neillduol. Mae eisieu dadorchuddio pob iselwaith yn mha le bynag, ac yn mhwy bynag y ceir ef, a gall cyhoeddusrwydd fod yn ddychryn i'r troseddwyr, ac yn wers i eraill; ond da fyddai i'r newyddiaduron fod yn dra gofalus pa ffordd i ymwneyd à phethau o'r fath, rhag y dichon iddynt gymeryd gormod arnynt eu hunain, ac felly, yn ddiarwybod, gwneyd y rhwyg yn fwy.

(c) Tuedd at annhegwch mewn rhai amgylchiadau,- Nis gellir disgwyl i'r newyddiaduron beidio sylwi ar symudiadau cyhoeddus trwy ddrych eu plaid—i raddau mwy neu lai—ac nis gellir disgwyl iddynt fod yn anffyddlawn i egwyddorion y rhai fydd yn eu noddi, ond ni