Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylai hyn eu dallu i ragoriaethau y bobl fydd yn wahanol iddynt, a chymeryd pob achos ar ei deilyngdod neu ei annheilyngdod ei hun. Ymddengys y ceir engreiphtiau am gynnygion a chynlluniau yn cael eu tynu allan gan bersonau neillduol, ac yn cael eu condemnio gan amryw o'r newyddiaduron; ac eto, beth amser ar ol hyny, yr un cynnygion a chynlluniau yn cael eu dwyn allan dan enwau personau gwahanol, ac yn cael cefnogaeth gref yr un newyddiaduron ag oeddynt yn eu condemnio yn flaenorol. Dengys hyn anghysondeb, a thuedd at anwadalwch. Mae pethau o'r fath yn ddigon a gwneyd i ni gredu os bydd un yn digwydd bod yn ffafrddyn ganddynt hwy, fod pobpeth a wna hwnw, er i raí o'r pethau hyny, ynddynt eu hunain, fod yn ddigon ffol a diangenrhaid, yn sicr o fod yn dderbyniol a gwerthfawr; tra, ar y llaw arall, os na bydd un yn digwydd bod yn eu ffafr hwy, er iddo fod yn ddyn da a chydwybodol, bydd ei holl gyflawniadau yn ddiwerth ac annheilwng, er, efallai, i rai o'r pethau a gynnygiai fod yn egin diwygiadau cenedlaethol. Onid oes gogwydd at hyn yn y wasg newyddiadurol Gymreig? Onid oes sawr teuluyddiaeth, cyfeillgarwch, a chysylltiadau personol ar lawer ohonynt? Atebed darllenwyr cyson a sylwgar Cymru.

(d) Dymuniad cryf am gylchrediad eang, a hyny ar draul esgeuluso, i raddau, mewn rhai ohonynt, yr hyn sydd rinweddol, pur, a sylweddol.—Nis gellir beio cyhoeddwyr a gofalwyr am ddymuno cylchrediad eang i'w newyddiaduron—mae hyny yn berffaith gyfreithlawn—a buasai yn annaturiol iddi fod fel arall. Teimlwn, mewn gwirionedd, fod yr ymgais hon, ynddi ei hunan, i'w chanmol, a gall, mewn gwahanol ffyrdd, droi yn fantais i'r cyhoedd, a gallwn, yn hollol gywir, sicrhau ein bod yn dymuno llwyddiant swyddfeydd argraphu Cymru yn ystyr eithaf y gair. Ond, yr hyn y dymunem roddi