Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwys arno ydyw hwn: y perygl i'r duedd gref hon at lwyddiant arianol gael ei chario mor bell nes cynnyrchu dirywiad llenyddol. Nid ydym yn gwybod fod yr un newyddiadur yn Nghymru wedi myned yn anfoesol ei nodwedd, yn anffyddol ei syniadau, nac yn afiach a pheryglus yn ei ddylanwad. Da iawn genym allu rhoddi y dystiolaeth hon. Ond, er hyny, ni theimlir fod mwyafrif ein newyddiaduron yr hyn a fuasai yn ddymunol iddynt fod, nac hyd yn nod yn meddu y dylanwad yn mhlaid daioni ag y gallesid disgwyl bellach eu bod yn ei feddu. Dywedodd Quintilian unwaith am gymeriad neillduol—"Ei ragoriaeth oedd ei fod heb fai, a'i fai oedd ei fod heb ragoriaeth." Yn gyffelyb, i fesur, y gellir dyweyd am ran helaeth o'r wasg newyddiadurol Gymreig: er nas gellir dyfod â chyhuddiad pendant yn ei herbyn yn yr ystyr hon, eto teimlwn y gallasai ac y dylasai ei dylanwad ar y wlad, er ei fod eisoes yn gryf, ac wedi cyflawni rhai gorchestion, fod yn llawer dyfnach a chryfach. Nid ydym yn hollol sicr a ydyw cyhoeddwyr ein gwlad yn ddigon gofalus wrth benodi golygwyr a gohebwyr i'w newyddiaduron. Ofnwn, er galar yr ydym yn dyweyd, fod rhai golygwyr newyddiadurol yn Nghymru heddyw ag ydynt yn hollol anghymhwys i'r swydd a'r safle. Cofier fod genym rai gwahanol—dynion sydd yn ymdrechu gwneyd eu goreu, yn mhob modd, i lesoli eu gwlad. Beth am luaws mawr o'r gohebwyr? Mae llawer o honynt, mewn mwy nag un ystyr, yn mhell o fod yn foddhaol. Mae y wlad, fel rheol, yn adwaen y gohebwyr hyn-yn gwybod eu hanes yn dda—ac ofnir nad yw yr adnabyddiaeth bob amber yn fantais i ychwanegu ffydd y bobl ynddynt. Oni ddylid bod yn fwy gofalus wrth sicrhau gwasanaeth golygwyr a gohebwyr? Ofnir fod amryw o'r cyhoeddwyr, er mwyn arbed treuliau arianol, yn