Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymeryd dynion y gellir eu cael yn lled hawdd eu telerau, pryd, mewn gwirionedd, y buasai yn annhraethol well, hyd yn nod i'r cyhoeddwyr eu hunain, dalu ychydig yn fwy, os byddai raid, er mwyn cael dynion cymhwys a thalentog. Meddylier eto am y golofn a elwir "Adolygiad y Wasg" yn y rhan fwyaf o'r newyddiaduron Cymreig. Gellid gwneyd defnydd ardderchog o honi i alw sylw y wlad at lyfrau da, tori i lawr ychydig ar awdwyr balch a rhodresgar, cyfarwyddo yr ieuainc, &c., ond mae yn hysbys ddigon nad yw corph y golofn, y rhan fynychaf, ond canmoliaeth ddigymysg bron i bob llyfr, tra y bydd yn amlwg i bawb sydd yn sylwi na bydd yr adolygydd (?) wedi trafferthu dim gyda chynnwys y llyfrau. Er na charem ddyweyd gair yn erbyn cael newyddion lleol, eto credwn mai annheg â mwyafrif y darllenwyr fydd rhoddi gofod gormodol i'r elfen leol, megis hanes mân gyfarfodydd tê, &c., pwy fydd yn gweinyddu, pwy fydd yn tori bara, pwy fydd yn cario dwfr, ac ni ryfeddem, yn ol rhediad presennol pethau, na chofnodir pwy fydd yn tywallt pob cwpanaid, sawl cwpanaid fydd pob un yn gael, pa fara a fwyteir fwyaf gan hwn-a-hwn, pwy fydd ddim yn cymeryd siwgr, &c. Felly byddai yr hanes yn gyflawn! Onid oes gormodiaith a gorliwiad wrth gofnodi hanes cyngherddau, darlithiau, cyfarfodydd cystadleuol, ac hyd yn nod cyfarfodydd pregethu. Mae pob cân yn ysplenydd, pob darlith yn rhagorol, pob cyfarfod pregethu yn effeithiol. Os ydym i bwyso ar yr adroddiadau—bydd y cwbl oll yn ardderchog, ac y mae credu y bydd pob cyfarfod felly, yn y byd anmherffaith hwn, yn rhywbeth sydd uwchlaw ein gallu. Maent yn rhy dda i allu bod yn hollol gywir. Beth hefyd am arddull gwerylgar rhan fawr o'r ohebiaeth newyddiadurol? Buasai llai, ie, llawer llai o'r pethau hyn, a mwy o'r buddiol a'r dyddorol,