Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn welliant; ond ofnwn fod yr awydd am gylchrediad eang yn peri fod ymgais at gyfarfod chwaeth y werin yn y mân bethau hyn. Credwn, er hyny, ei bod yn amser i godi ychydig ar y safon, a chredwn, yn wir, fod y wlad hefyd bellach yn disgwyl ac yn aeddfed i gyfnewidiad yn y ffordd hon. Rhoddir lle mawr ar y mwyaf i hanes llofruddiaethau erchyll, tor-priodasau, helyntion plant anghyfreithlawn, ac anniweirdeb, &c. Diau fod ein darllenwyr yn cofio am achos o athrod, yn nglyn a chyhuddiad o anfoesoldeb yn erbyn gweinidog Cymreig, a'r hwn achos oedd yn un o'r rhai mwyaf poenus. Daeth yr achos i Frawdlys Caerlleon, yn mis Mawrth, 1890,[1] a rhoddwyd rhai tystiolaethau, a hyny gan rai o'r rhyw fenywaidd, yn mhlith eraill, y teimlid eu bod yn gywilyddus i'r eithaf. Gwir ofidus genym y darfu i rai o'r newyddiaduron Cymreig gyhoeddi pob gair o'r tystiolaethau hyny. Yr oedd rhai darnau o'r tystiolaethau hyn yn ymylu ar fod yn anmhur, ac yn tueddu yn uniongyrchol at gyffroi teimladau iselaf y darllenwyr, a llygra eu chwaeth, ac y mae yn ofidus meddwl fod y cyfryw adroddiadau yn myned i ddwylaw bechgyn a dynion ieuainc ein gweithfeydd, ac nis gallent beidio cael argraph annymunol. Ymddengys i ni y dylesid, ar bob cyfrif, adael allan o'r wasg y rhanau amheus hyn o'r tystiolaethau, ac felly buasai y darllenwyr yn cael sylwedd yr hanes, a hyny heb golli dim gwerth ei golli. Gwyddom, gyda llawenydd, fod rhai eithriadau anrhydeddus, a chredwn fod genym ambell i newyddiadur na buasai byth yn halogi ei golofnau â sothach o'r fath, ond y mae nifer y rhai hyn yn rhy ychydig. Na chamddealler ni ystyriwn yr ymgais at gyhoeddi ffeithiau yn un dda a derbyniol, ond, gyda hyn, yr ydym

yn cymeryd yn ganiataol y dylai cofnodiad y ffeith-

  1. CHESTER ASSIZES—A FESTINIOG SLANDER CASE; The Cambrian News and Merionethshire Standard 21 Mawrth, 1890