Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau hyny fod yn gyson â chwaeth bur a moesoldeb ymarferol.

(e) Rhoddi lle i ddadleuon a chyfeiriadau personol, isel, angharedig, a di-les.—Yetyrir fod dadl dda yn iechyd i gymdeithas, ac yn foddion i ddeffroi meddylgarwch, a chyfranu gwybodaeth i'r wlad; ond rhaid datgan fod math arall o ddadleuon—rhai ffol, mympwyol, di-chwaeth, ac anfuddiol. Gwyddis am rai dadleuon, a rhai cyfeiriadau, &c., nas gallasai eu dylanwad fod yn ddim amgen na niweidiol. Gellir nodi, er engraipht, am yr amser pan yr oedd y Parch. Morris Williams (Nicander) yn glerigwr yn Bangor, wedi iddo ddychwelyd o'r athrofa yn Rhydychain. Gan iddo bregethu, yn ol syniad llawer, yn lled Buseyaidd, ger bron un o Gymdeithasau Cyfeillgar y dref, ffromodd Y Figaro, yr hwn newyddiadur gwawdlyd a gyhoeddid yn Bangor ar y pryd, a'r wythnos ddilynol ymddangosodd ynddo ddarlun o Nicander, gan ei ddangos fel pe yn edrych oddiallan i ffenestr hen weithdy saer yn Llanystumdwy, yn gwisgo ei ffedog, a llewys ei grys wedi eu torchi: gosodai ei fysedd, yn ol y darlun, yn rhes ar y llinell amlycaf yn ei wynebpryd, a gwaeddai "Ffarwel-Better Living!" Yna ceid darlun arall ohono, yn ei wisgoedd offeiriadol, yn pregethu "Adenedigaeth yn y Bedydd," gyda'r Cyffes Ffydd, Yr Hyfforddwr, a'r Drysorfa, wedi eu lluchio yn ddarnau ar draws yr allor gerllaw. Ystyriwn fod y darluniau a'r cyfeiriadau hyn yn hollol annheilwng. Ymddengys fod bardd o'r enw Edeyrn ab Nadd yn aros yn Bangor oddeutu yr adeg hono, ac yn ymgymhwyso gogyfer â'r weinidogaeth Eglwysig, ac aeth i wrthdarawiad â golygydd Y Figaro, a'r wythnos ddilynol dyna ddarlun chwerthinllyd o'r Edeyrn, ac i ddial ar ei elyn dyna Edeyrn yn cychwyn newyddiadur o'r enw Anti-Figaro, yn Nghaernarfon. Bu yr Anti-Figaro hwn yn ddraenen