Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fywyd y genedl, ac ofnwn ei fod yn ddylanwad y dylai caredigion y wasg newyddiadurol yn Nghymru wneyd eu goreu, mewn gwahanol gyfeiriadau, i'w wrthweithio.


2. Rhagoriaethau.

(a) Cymerir gofal, ar y cyfan, fod yr hyn a gyhoeddir ganddynt yn ffeithiau.—Ni chyhoeddir dim, fel rheol, a anfonir i swyddfa heb i'r golygydd gael yr enw priodol, er y gall ymddangos yn gyhoeddus dan gysgod ffugenw, neu heb enw o gwbl; eto nis gall yr ysgrif fyned trwy ddwylaw y golygwyr neu ofalwyr y swyddfeydd mewn modd cyfrinachol, heb enw priodol yr awdwr; a diau mai dyna un rheswm dros fod y newyddiaduron Cymreig, gydag ond ychydig eithriadau, yn cadw mor dda rhag syrthio i brofedigaethau cyfreithiol ag sydd mor gyffredin yn hanes newyddiadurou gwledydd eraill. Diau fod hyn yn rhinwedd gwerthfawr, a gall fod yn attalfa i lawer trallod; er, hwyrach, y buasai yn dda i'r naill newyddiadur wrth ddifynu o'r llall fod yn ofalus ar i'r hyn a ddifynir fod yn gywir, ac nid cymeryd yn ganiataol ei fod yn gywir, pan, mewn gwirionedd, na bydd felly. Os ymddygir yn anghyfiawn a chreulawn, os troseddir yn hyf ar ddeddfau y wlad, os gorthrymir yn ddiachos, &c., cyhoeddir y ffeithiau yn ddi-gêl, beirniadir hwy yn agored, a chaiff y wlad eistedd ar orsedd barn i benderfyuu rhwng y wasg â'r pleidiau cyhuddedig.

(b) Prin, efallai, fod anghen am unrhyw gyfeiriad at brydlondeb y newyddiaduron Cymreig yn dyfod allan, glanweithdra y gwaith argraphyddol, &c., ac yn y pethau hyn, wrth eu cymeryd yn nghyd, rhaid datgan y daliant gystadleuaeth â newyddiaduron unrhyw genedl, ac, wrth fyned heibio i hyn, gellir gwneyd sylw ar amryw-