Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Gallaf ddyweyd yn onest fy mod yn caru fy ngwlad, ac yn awyddus i wneyd fy ngoreu-er nad yw hyny ond ychydig er ei dyrchafu. Byddaf yn falch o fy iaith, ac o fy nghenedl, a gellir bod yn sicr mai oddiar hyny, yn un peth, y tarddodd y gwaith hwn. Bu’m yn teimlo lawer gwaith, a diau y teimla cannoedd eraill yn gyffelyb, fod hanes llenyddiaeth Cymru yn hynod anrhefnus, anghyflawn, a gwasgarog, a pho hwyaf yr oediad, anhawddaf a fydd gwella sefyllfa pethau yn ein plith. Byddaf yn credu ein bod, fel cenedl, yn lled ddi-bris o'n trysorau cenedlaethol, a bod lle mawr i wella yn y cyfeiriad hwn mewn gwahanol ystyron; ac, os nad ydwyf yn camgymeryd, un o'r arwyddion amlycaf yn hanes deffroad Cymru yn awr ydyw yr awydd i gasglu, crynhoi, a chadw pethau gwerth fawr ein gwlad rhag myned yn anghof.

I'r rhai a gymerant ddyddordeb yn ngweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol, efallai fod yn wybyddus i mi fod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1890) , am draethawd ar y testyn—"Rhagoriaeth a Diffygion y Wasg Gymreig,"