Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth eu cynnwys.—Gall fod rhai o'r newyddiaduron Cymreig yn cario hyn yn rhy bell, ac wrth ymdrechu at amrywiaeth yn cyhoeddi rhai pethau y buasai yn well peidio; ond, er hyny, diau fod yr ymgais hon at amrywiaeth, cyn belled ag y bydd yn gywir, yn elfen yn eu rhagoriaeth. Rhoddir ynddynt grynodeb o brif symudiadau y dydd, ceir hanes gwleidyddiaeth (yn ei gwahanol ffurfiau), sefyllfa masnach, colofnau barddonol, ceir gwahanol feirniadaethau a draddodir mewn Eisteddfodan a chyfarfodydd llenyddol, newyddion lleol o wahanol ranau o'r wlad, colofnau ar henafiaethau, athroniaeth, ac yn aml rhoddir colofn neu ddwy—mwy neu lai—i ddirwest, moesoldeb, &c. Ymdrechir cyfarfod amrywiaeth chwaeth ac amgylchiadau darllenwyr Cymru: cofir am y llenor, y bardd, yr henafiaethydd, y dirwestwr, y gwladweinydd, yr hanesydd, y cerddor, &c. Er fod tôn foesol rhai o'r newyddiaduron, yn enwedig ar adegau, heb fod yn hollol yr hyn a ellid ddisgwyl, fel y sylwyd yn barod, eto, ar y cyfan, mae genym le i gymeryd cysur, a bod yn ddiolchgar, gan fod hyny yn beth eithriadol. Dywedir na chafodd yr un newyddiadur gwrth-grefyddol ei sefydlu erioed yn Nghymru. Mae hyny, ynddo ei hun, yn myned yn mhell iawn, a mawr hyderwn, yn ddifrifol, yn enw Duw, ac yn enw dyfodol Cymru, na bydd byth i'r un newyddiadur o'r fath gael ei gychwyn yn ein gwlad. Ceir yr holl newyddiaduron Cymreig, hyd y gwyddom, mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn proffesu bod yn gynnorthwy i bobpeth sydd dda ac iawn, ac, yn sicr, dylai hyny fod yn rheswm dros i holl hyrwyddwyr crefydd a moesoldeb fod yn ddiolchgar, a dylai hefyd fod yn rheswm dros iddynt benderfynu, mewn gwahanol ffyrdd, i wneyd eu goreu dros gadw dalenau newyddiaduron Cymru yn lân a phur.