Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fisoedd yn ol, Y Goleuad yn eu cyhoeddi, yn gyfres, yn y Gymraeg. Hefyd dyna ysgrifau Mr. Gladstone ar "Graig Ddisyfl yr Ysgrythyr Lân" wedi cael eu cyhoeddi, yn gyfres, yn Yr Herald Cymraeg. Ceir ysgrifau cyffelyb dan y penawd "Liddon ar Ysprydoliaeth" mewn Un arall. Tra yn canmol yr ymgais hon at gario gwybodaeth i'r Cymry, ac yn gobeithio y bydd iddynt barhau yn yr un cyfeiriad, eto rhaid dyweyd, fel sylw cyffredinol, y dylai rhai o'r newyddiaduron Cymreig ymdrechu bod yn fwy gofalus wrth gyfieithu ysgrifau o'r dosparth hwn i'r Gymraeg. Ofnwn nad yw y gwaith yn cael ei ymddiried bob amser i bersonau cymhwys, neu na chymerir amser digonol at y gwaith, gan y clywir cwynion fod llawer o'r cyfieithiadau hyn yn aneglur ac anystwyth. Gellir enwi, yn mhlith eraill, rai ysgrifau neillduol a ddarfu, yn eu ffordd eu hunain, eangu llawer ar gylch gwybodaeth a deall y genedl:—Darfu i "Meddyliau Meddyliwr" (Mr. Eleazer Roberts, Lerpwl), ac ysgrifau Ieuan Gwyllt—y naill a'r llall ar faes Yr Amserau yn ei flynyddoedd boreuaf—ar "Rhyfel y Crimea," fod yn gynnorthwy effeithiol i oleuo y bobl ar faterion o'r fath. Gwnaeth ysgrifau Baner ac Amserau Cymru ar "Y Fugeiliaeth Eglwysig" gynhwrf mawr, yn enwedig yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a diau iddynt mewn ffordd ffafriol gan rai ac anffafriol gan eraill gael argraph, a beth am yr "Homiliau" a ymddangosent yn yr un newyddiadur lawer blwyddyn yn ol? Byddai ysgrifau "Dyn y Baich Drain yn y Lleuad," y rhai a ymddangosent oddeutu cychwyniad Y Dydd, yn cael derbyniad croesawgar, ac yn goleuo ac arwain y darllenwyr. Canmolir "Llith yr Hen Löwr," yr hon a gyhoeddir yn Y Llan a'r Dywysogaeth, fel ymgais at oleuo y dosparth gweithiol, a diau y gwna y golofn a elwir "Bord y Chwarelwyr a'r Glowyr," yr hon