Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw myned i mewn i deilyngdod neu annheilyngdod y ddadl, ond yn sicr bu yn foddion i beri i laweroedd gymeryd dyddordeb mewn pwnc o'r fath, ac i symbylu llafur pellach gydag ef. Dadl ryfeddol, ac un a achosodd gynhwrf, oedd yr un yn Yr Amserau rhwng Ieuan Gwynedd a Gweirydd ap Rhys ar "Y Pedwar Mesur ar Hugain," ar ol cadeirio awdwr y bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuddlan: dadleuai Gweirydd dros gadeirio awdl, a dim ond awdl, tra y dadleuai Ieuan y dylid cadeirio pryddest yn ogystal. Hefyd, bu dadl yn cael ei chario yn mlaen, ychydig amser yn ol, ar faes Tarian y Gweithiwr, mewn canlyniad i feirniadaeth ar englynion i "Banau Brycheiniog," rhwng y diweddar Dewi Wyn o Esyllt a Dyfed, ac er ei bod yn ddadl o natur hynod boenus a phersonol, eto hyderwn fod tuedd ynddi i beri i feirniaid Eisteddfodol fod yn fwy gofalus a chydwybodol, yn gystal ag i buro cylchoedd llenyddol; ac yn arbenig credwn y bu y ddadl hon, er mor anffodus, yn foddion i oleuo y wlad yn nghylch ammodau cystadleuaethau llenyddol. Nid teg fyddai gadael yr adran hon heb gyfeirio at y ddadl a ymddangosodd am wythnosau yn Baner ac Amserau Cymru, yn niwedd y flwyddyn 1890, rhwng Deon Llanelwy a Mr T. Gee, Dinbych, ar "Foesoldeb Rhyfel y Degwm." Tynodd sylw, ac yr oedd yn afaelgar, a diau fod gwahanol gyfeiriadau y ddadl— o'r ddwy ochr—wedi bod yn gymhorth da i'r bobl, ac yn enwedig i amaethwyr Cymru, i ddeall y mater dyrus hwn yn ei wahanol agweddau. Gwelir felly, heb enwi ychwaneg, fod y wasg newyddiadurol Gymreig—yn ei ffordd ei hunan—wedi ac yn gwneyd ei rhan tuag at oleuo deall pobl ein gwlad.

(b) Dylanwad Gwleidyddol.

"The influence of newspaper writing in political affairs has not increased proportionately with its scope, or anything like