Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

it. The public journals have a million readers where they had only a few thousands at the beginning of the century; but it is doubtful whether they have as much power over the publio mind or the conduct and decision of affairs."—Difyniad o'r Nineteenth Century (tud. 836), am Mai, 1890.

Dyna syniad yr awdwr hwnw—Mr. Frederick Greenwood—am ddylanwad gwleidyddol y newyddiaduron Seisonig; ac nid ydym yn hollol sicr—yr ydym yn betrusgar—nad oes peth gwirionedd yn y geiriau hyn yn eu cysylltiad â newyddiaduron Cymru. Ceir fod bron yr holl newyddiaduron Cymreig, modd bynag, yn arfer rhoddi crynhoad o weithrediadau y Senedd, ac, yn gyffredin, ceir erthyglau arweiniol a beirniadol arnynt. Dilynir symudiadau gwleidyddol y dydd, dadleuir egwyddorion gwleidyddiaeth, a rhoddir hanes bywyd gwleidyddwyr enwog ymadawedig. Ceir hefyd, erbyn hyn, mai peth cyffredin ydyw cael llythyrau i'r newyddiaduron gan rai o'r Aelodau Seneddol Cymreig. Ceir gwleidyddiaeth, i ryw raddau, yn ein holl newyddiaduron, a braidd nas gellir dyweyd, erbyn hyn, eu bod yn cymeryd plaid neillduol mewn gwleidyddiaeth, ac y mae hyny, o angenrheidrwydd, yn rhwym o fod yn cario dylanwad— dros y naill blaid neu y llall—ar y darllenwyr. Pwy all ddyweyd maint dylanwad llythyrau y Parch. John Owen, Ty'nllwyn, yn Yr Herald Cymraeg oddeutu adeg Etholiad y flwyddyn 1868? Mae yr adsain heb gilio eto. Mae yn amlwg fod "Gweledydd y Tŵr" yn Y Llan a'r Dywysogaeth yn ysgrifenydd miniog galluog, a diau fod ei lythyrau wythnosol yn cael dylanwad ar ei bobl ei hun trwy eu goleuo a'u cadarnhau yn egwyddorion Ceidwadaeth, ac yn mhlaid yr Eglwys Sefydledig. Nis gall neb ddyweyd pa mor ddwfn oedd dylanwad llythyrau wythnosol "Y Gohebydd" yn Baner ac Amserau Cymru: gellir dyweyd, yn gwbl ddibetrus, fod miloedd o bobl