Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru bob wythnos, ar y pryd hwnw, yn disgwyl gydag awch am danynt. Gelwid sylw y cyhoedd drwyddynt at wleidyddiaeth yn ei gwahanol ganghenau, ac ymdrinid âg Addysg, yn ei amrywiol gysylltiadau, a byddai pob llythyr yn bennod ddyddorol ynddo ei hun; ac yn sicr mae gan y llythyrau hyny ran helaeth mewn dwyn ein gwlad i'r hyn ydyw heddyw, Prin y mae anghen crybwyll, gan mor hysbys yw y ffaith, fod holl ddylanwad "Y Gohebydd" yn gweithio yn mhlaid Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth. Wrth son am ddylanwad gwleidyddol newyddiaduron Cymru, rhaid peidio anghofio y newyddiadur a elwid Cronicl yr Oes. Wrth siarad yn fanwl, mewn un ystyr, gellir dyweyd mai hwn oedd y newyddiadur Cymreig cyntaf i roddi lle i wleidyddiaeth fel y cyfryw ac, yn enwedig, efe oedd y cyntaf i gymeryd ochr a safle neillduol mewn gwleidyddiaeth. Prin y gellir dyweyd fod yn Nghymru, ar y pryd hwnw, unrhyw sylw yn cael ei roddi i hyn—yr oedd y wlad yn cysgu yn dawel. Ceid cyfres o erthyglau ynddo ar "Cyfansoddiad y Deyrnas," "Y Ddyled Wladol," crynodeb llawn a manwl o'r gweithrediadau Seneddol, &c. Cawsom yr hyfrydwch o weled y rhifynau ohono am y blynyddoedd 1836-8, ac o ran clirder a chraffder ei adolygiadau a'i feirniadaethau, nerth ei erthyglau, yr eglurhad a'r goleuni a geid ynddo ar egwyddorion gwleidyddiaeth, &c, mae yn amheus genym a oes unrhyw newyddiadur Cymreig, yn y dyddiau hyn, a fuasai yn rhagori arno. Ceid ynddo ysgrifau cryfion, beiddgar, ac annibynol ar bynciau gwleidyddol, a darfu i'r ysgrifau hyn, gan mor newydd a diwygiadol oeddynt, beri i'r anfarwol Barchedig John Elias deimlo braidd yn ddolurus a thramgwyddus, ac ofnai ef, ar y pryd, fod y gwr ieuanc (y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug) oedd yn golygu y newyddiadur hwn, mewn perygl o greu chwyldroad a fuasai yn