Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

niweidiol i achos crefydd; ond teg, er hyn, ydyw dyweyd fod Mr. Elias, cyn diwedd ei oes, wedi dyfod i goleddu y syniadau uwchaf am Mr. Edwards. Ni pherthyn i ni, yn y gwaith hwn, fyned i mewn i natur ofnau Mr. Elias—ar y naill ochr na'r llall—ond yn sicr rhaid dyweyd, fel mater o ffaith, heb fanylu dim arni, fod y newyddiadur hwn, ac yn arbenig ei brif erthyglau, wedi bod yn foddion i gychwyn cyfnod newydd yn hanes gwleidyddol cenedl y Cymry. Ond, er hyn oll, mae yn debyg y cydnabyddir fod Yr Amserau yn meddu llaw gref yn ffurfiad gwleidyddiaeth Cymru. Yr oedd erthyglau arweiniol Yr Amserau yn gryfion, diamwys, a phendant, a diau fod ei ysbryd, yn gystal a'i gynnwys, wedi taflu elfen newydd i fywyd y genedl. Mewn trefn i allu iawn-brisio dylanwad Yr Amserau, dylid cofio beth oedd sefyllfa ein gwlad ar y pryd—difater a thywyll, ac yn edrych ar faterion cyhoeddus bron yn gwbl yn eu cysylltiad â phersonau, ac nid ag egwyddorion, ac un o'r prif orchestion a wnaeth Yr Amserau, ac ystyriwn ei bod yn orchest anhawdd, oedd cael y wlad i edrych mwy ar gwestiynau gwleidyddol oddiar safle egwyddorion, ac nid oddiar safle amgylchiadau a phersonau. Efallai, ar ol y cwbl, mai bywyd ac ysbrydiaeth Yr Amserau oedd "Llythyrau 'Rhen Ffarmwr." Nid gormod dyweyd fod Cymru oll wedi ei chynhyrfu gan y llythyrau hyn: yr oeddynt yn ddoniol, ddifyr, ac addysgiadol, a thrwyddynt dysgid gwirioneddau pwysig i'r bobl mewn arddull hollol boblogaidd ac eglur, ac yn yr iaith fwyaf gwerinaidd a chyffredin. Cafodd calon y wlad ei gogleisio trwy y rhai hyn, ac mewn ffordd ddengar gosodwyd argraph drwyddynt ar feddwl a chymeriad y genedl nad yw wedi cael ei dileu hyd heddyw; a da iawn genym weled fod Mr. Isaac Foulkes (Y Llyfrbryf), wedi casglu yr holl lythyrau hyn yn nghyd, ac wedi