Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneyd an llyfryn o honynt. Mae yn hen gwestiwn bellach—Pa un ai Cronicl y Oes ynte Yr Amserau sydd yn meddu y lle blaenaf yn hanes a dylanwad gwleidyddiaeth Cymru? Prin y perthyn nac y disgwylir i ni yn y cysylltiad hwn, i benderfynu y cwestiwn, hyd yn nod pe gallem: ac efallai fod llawn gormod o'r mân-ddadlu wedi bod eisoes ar y peth, a rhy fychan o'r diolchgarwch dyledus yn cael ei roddi iddynt eu dau. Dywed rhai "mai y Parch. Roger Edwards a lwyddodd i greu annibyniaeth meddwl parthed gwleidyddiaeth yn Ngogledd Cymru," ac mai efe "a sefydlodd hyny trwy gyfrwng Cronicl yr Oes." Tra, ar y llaw arall, y dalia rhai mai "Gwilym Hiraethog yn Yr Amserau a greodd farn gyhoeddus ac annibynol yn ein mysg ni fel cenedl." Tybed, yn awr, nad yn rhywle rhwng y ddau eithaf hyn y ceir y gwirionedd? Tybed nad all y ddau syniad, mewn rhai ystyron, fod yn gywir? Ymddengys i ni fod dwy safle yn bosibl i edrych ar y mater: ac oddiar y naill gellir dyweyd mai Cronicl yr Oes sydd yn sefyll uwchaf, ac eto, oddiar safle arall, mai Yr Amserau sydd yn haeddu y flaenoriaeth. Cyn belled ag yr oedd cyflwyno gwleidyddiaeth, fel y cyfryw, i sylw y Cymry am y tro cyntaf, a chyn belled ag yr oedd cymeryd safle neillduol, am y waith gyntaf, i edrych ar egwydd orion gwleidyddol—mor bell ag yr oedd y pethau hyn yn myned, diau y gellir dyweyd mai Cronicl yr Oes a ddarfu ddeffro ein cenedl gyntaf yn y cyfeiriad hwn; ond eto, cyn belled ag yr oedd dyfod âg egwyddorion gwleidyddiaeth i gyrhaedd deall a chalon corph gwerin Cymru yn myned, a chyn belled ag yr oedd dysgu y genedl i wahanu rhwng hen a newydd mewn gwleidyddiaeth yn myned, diau y gellir dyweyd mai Y Amserau a ddarfu arwain y genedl i ffurfio syniadau annibynol ar egwyddorion gwleidyddol. Cronicl yr Oes a darawodd