Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyntaf, ond Yr Ameerau a darawodd drymaf, ac nid yw swn y ddaa darawiad wedi darfod eto. Yn Yr Amserau y sylweddolwyd prif syniad Cronicl yr Oes, ac yr oedd y naill fel rhagredegydd i'r llall, a rhwng y ddau, crewyd cyfnod newydd yn hanes bywyd gwleidyddol Cymru. Onid oedd y ddan yn anghenrheidiol? Yn hytrach na dyrchafu y naill ar draul darostwng y llall, neu ymryson pa un o honynt a wnaeth fwyaf, gadawer i ni, fel cenedl yn gyffredinol, ddiolch am y gwasanaeth anmhrisiadwy a gyflawnwyd ganddynt.

(c) Dylanwad Cymdeithasol,—Mae yn sicr fod y newyddiaduron Cymreig, trwy roddi cyhoeddusrwydd i bethau da—ffeithiau dymunol yn hanes lleoedd a phersonau— a thrwy ganmol a chefnogi y teilwng, yn nerth ac yn galondid i bobpeth manteisiol i lwyddiant y bobl; ac, o'r tu arall, wrth gondemnio yr annheilwng, codi eu llef yn erbyn anghyfiawnder, rhoddi cyhoeddusrwydd i ymddygiadau iselwael, &c., diau eu bod yn rhoddi attalfa ar lawer o ddrygioni a gyflawnid pe heb hyny. Mae ganddynt eu dylanwad cymdeithasol yn yr ystyr o roddi mwynhad pleserus i bobl Cymru, ychwanegu eu gwybodaeth, cynnyddu eu dyddordeb yn symudiadau y byd, &c, a thrwy hyn oll teimlwn yn gryf i ddyweyd eu bod yn sirioli miloedd o aelwydydd, ychwanegu at bleserau y cylch teuluaidd, yn feithriniad i fanteision lleol cymydogaethau a threfydd, ac, fel y sylwyd yn barod, ar y cyfan, ac y mae yn llawenydd genym allu credu hyny, y maent yn fraich, er, hwyrach, nid mor gref eto ag y gallasai fod, i'r weinidogaeth, i'r Ysgol Sabbothol, i gymdeithasau daionus, ac i gynnydd gwelliantau cyffredinol, &c. Onid allasai y newyddiaduron Cymreig, mewn ystyron cenedlaethol, fod yn fantais i'r Cymry Ymddengys i ni fod dylanwad ein newyddiaduron yn un o'r elfenau cryfaf a dyfnaf yn ein cenedl-