Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1891), cefais y wobr am draethawd ar y testyn—"Y Newyddiadur a'r Cylchgrawn Cymreig –Eu hanes , a'u dylanwad ar fywyd y genedl."

Bu y cystadleuaethau hyn yn symbyliad i lafurio yn mhellach yn nglyn â'r ganghen hon, er y mae y rhydd i mi gael dyweyd fod y gwaith hwn, i fesur helaeth, yn rhedeg ar linellau gwahanol i'r cynnyrchion hyny.

Gellir tybio fod y llyfr wedi peri llafur, a chofier y bu mwy o lafur nag a welir yma, oherwydd gwnaed llawer ymchwiliad heb ddim ffrwyth i hyny. Mae llawer o rywbeth tebyg i lafur ofer i'w gael gyda llyfr o'r math hwn. Yr wyf yn gwybod yn dda fod llawer o'r ffeithiau a gofnodir genyf yn anghyflawn, ac, efallai, ambell i un ohonynt yn anghywir; ond y mae hyny, i raddau pell, yn codi o'r ffaith fod rhai personau—yr unig rai mewn mantais i wybod yn gwbl anewyllysgar i gyfranu eu gwybodaeth i eraill. Eto, ar yr un pryd, nid felly pawb: a gadawer i mi, drwy hyn, gyflwyno fy niolchgarwch puraf i'r cyfeillion caredig ag oeddynt yn hynod barod, hyd y gallent, i gynnorthwyo. Cefais waith mawr a dyfal i gael y llyfr hyd yn nod i'r hyn ydyw, ond nid wyf yn cwyno—llafur pleserus ydoedd, gan fy mod wedi treulio rhai blynyddoedd mewn swyddfa argraphu, ac fel argraphwyr yn gyffredin, yn cymeryd dyddordeb lled ddwfn yn nghynnyrchion y wasg, yn enwedig felly cynnyrchion argraph-wasg fy anwyl wlad enedigol. Gallaf ddatgan nad ysgrifenais ddim ynddo heb ystyried yn flaenorol, ac amcenais fod yn hollol deg, gan gymeryd golwg eang ar yr hyn sydd dan sylw.