Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aetholdeb (nationality). Gyda golwg ar yr ysgrifau mwyaf neillduol, yn yr ystyr hon, mae yn anhawdd tynu y llinell, oherwydd fod dylanwad cymdeithasol a moesol, rhywfodd, yn beth mor ddistaw, graddol, dirgel, a dwfn dreiddiol, fel mai nid hawdd yw dyweyd drwy ba gyfryngau yn arbenig y bydd yn gweithio; ond, yn mhlith ysgrifau eraill, efallai, gellir enwi y rhai canlynol fel rhai a dreiddiasant yn ddwfn i fywyd cymdeithasol Cymru:-Llythyrau gan un a alwai ei hunan yn "Thesbiad" yn Yr Herald Cymraeg, flynyddoedd yn ol. Cynnwysai yr ysgrifau hyn, yn benaf, fath o feirniadaeth ar symudiadau a gweithrediadau cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd: nodweddid y llythyrau â llymdra diarbed, a chydnabyddid, yn gyffredinol, eu bod yn dangos gallu a thalent anghyffredin. Diau y bu iddynt gael sylw, nid yn unig gan un cyfundeb, ond gan yr oll o'r cyfundebau crefyddol yn Nghymru, a gwnaethant les yn yr ystyr o beri iddynt fod yn fwy pwyllog, doeth, a gofalus yn eu symudiadau. Parheir i son hyd heddyw am lythyrau y "Thesbiad." Pwy all ddyweyd y lles a wnaed gan Yr Amserau yn nglŷn â chyhoeddiad "Y Llyfrau Gleision," ac adroddiad y Dirprwywyr a bennodwyd gan y Llywodraeth, yr adeg hono, i edrych i mewn i ansawdd foesol Cymru? Meddylier hefyd am yr ysgrif ar "Taflu y Pregethwyr i'r Bwystfilod," yr hon a ymddangosodd yn Y Goleuad am Tachwedd 13eg, 1869: gwnaeth yr ysgrif hon, er yn chwerw ei chyfeiriad, les dirfawr fel math o amddiffyniad i weinidogion yr Efengyl, er, y mae yn rhaid addef—ond arwydd diammheuol o'r dylanwad dwfn a gafodd oedd hyny—fod ei hawdwr (y diweddar Barch. Dr. Lewis Edwards, Bala), wedi cael, ar ei chyfrif, aml i air angharedig gan rai. Darfu i'r ddadl, ar dudalenau Seren Cymru, yn ddiweddar, yn nghylch egwyddorion