Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirwest, beri cryn gynhwrf yn mhlith Bedyddwyr Cymru, yn enwedig yn y Gogledd, ac aeth pethau mor hell nes y darfu i rai eglwysi, fel eglwysi, basio penderfyniadau ffurfiol fel gwrthdystiad yn erbyn natur yr ysgrifau, a deallwn fod eglwys Ebenezer, Cildwrn, Môn (hen eglwys y diweddar enwog Christmas Evans), wedi pasio penderfyniad cryf iawn ar y peth. Mae hyn yn dystiolaeth i ddyfnder dylanwad y newyddiaduron, oherwydd os byddent yn bygwth dechreu llithro, yn ngolwg rhai, ychydig iawn oddiar y llwybr, wele Eglwysi Crist yn dechreu ymysgwyd! Mae yn rhaid fod llythyrau wythnosol—am flynyddoedd meithion—"ladmerydd" (y diweddar Barch. John Thomas, D D., Lerpwl) yn Y Tyst a'r Dydd yn cario argraph ar ddosbarth lluosog yn ein gwlad. Cawn fod Baner ac Amserau Cymru wedi dechreu, yn ddiweddar, gyhoeddi llythyrau oddiwrth rai o'r prif weinidogion yn Nghymru ar y materion crefyddol a allent fod yn fwyaf amserol i'r genedl ar hyn o bryd. Gwelir fod rhai cynnulleidfaoedd ac eglwysi—yn y Gogledd a'r Deheudir—yn gwneyd arferiad i'w darllen yn gyhoeddus i'r lluaws yn eu gwasanaeth crefyddol, a chredwn fod hyny, ynddo ei hun, yn arwyddo eu gwerth. Nis gellir diweddu yr adran hon heb gyfeirio, yn arbenig, at ddylanwad llythyrau "Adda Jones," sef y diweddar Barch. John Evans (I. D. Ffraid), Llansantffraid, ger Conwy, pa rai a ymddangosasant, flynyddoedd yn ol, yn Baner ac Amserau Cymru, a chydnabyddir fod y llythyrau hyn yn mhlith y pethau cyfoethocaf, o ran nwyfiant, arabedd, a chywreinrwydd rhesymegol, sydd yn yr iaith Gymraeg." Er mai yn nghyfeiriad Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth y rhedai yr ysgrifau amlaf, ac er y bu yr awdwr mewn gwrthdarawiad aml i dro drwyddynt, eto ceid ynddynt ymdriniaeth, yn awr ac eilwaith, ar bethau oedd yn