Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nglyn â moesau ac arferion cyffredin cymdeithas, a byddent, ar y pethau hyn, yn anwrthwynebol. Gadawer i ni nodi, fel un enghraipht i ddangos en dylanwad, ei lythyrau yn nghylch "Ffynnon Elian." Saif y ffynnon hon, fel y mae yn hysbys, yn agos i Llanelian, yn mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos, ar gyffiniau Dinbych ac Arfon. Galwyd hi ar enw Elian ab Gallgu Redegog, o hil Cadrod Calchfynydd, yr hwn oedd yn byw, fel y tybír, oddeutu 600 O.C. Mae Gwilym Gwyn, y bardd, yn ei alw yn Elian Ceimiad, ac nis gall neb ddyweyd y twyll a'r ofergoeledd a fu ya nglyn a'r ffynnon am ganrifau. Byddai cannoedd lawer, o bob parth o Gymru, os nad rhai manau o Loegr, yn dyfod iddi bob blwyddyn, ac yn talu arian mawr fel offrwm i'r hen sant, a thrwy hyny byddent yn cael y fendith neu y felldith, yn ol fel ag y byddai yr amgylchiadau yn galw:—

"Os 'nifael a gollant,
At ddewin y rhedant,
Prysurant, news holant mewn sel;
I:: rheiny gofynant
O'u bodd 'mh'le byddant,
A'u oelwydd a goelient heb gêl."

Dyna hanes y wlad ar yr adeg hono, a byddai ychydig bersonau neillduol yn derbyn cyfoeth lawer gan y cyhoedd trwy y ffordd hon i dwyllo. Daeth Adda Jones" (I. D. Ffraid), modd bynag, drwy ffordd neillduol, i wybod am yr holl amgylchiadau gwyddai yn drwyadl am hanes y ffynnon a'r personau oeddynt yn derbyn elw oddiwrthi, a gwyddai hefyd hanes y bobl, yn y diniweidrwydd a'r ofergoeledd, a fyddent yn rhoddi yr arian, fel, rhwng yr oll-ei wybodaeth fanwl am holl gysylltiadau yr hanes, ei allu desgrifiadol di-ail fel awdwr, &c.,-ysgrifenodd gyfres o lythyrau i