Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddatguddio yr holl dwyll; ac nid gormod yw dyweyd y darfu i'r llythyrau hyny siglo Cymru, a buont yn angeu i lwyddiant y ffynnon, a braidd nad ellir dyweyd, erbyn hyn, fod ffynnon Elian yn cael edrych arni gan bawb fel rhan o'r olion am ofergoeledd yr hen oesoedd, a bron wedi ei llwyr anghofio. Nid yw hyn, cofier, ond un engraipht, yn mhlith eraill, i ddangos dylanwad cryf llythyrau "Adda Jones" ar y wlad; a gellir edrych ar yr un enghraipht hon fel cymwynas gymdeithasol â'r cyhoedd, yn gystal ag fel tarawiad marwol i dwyll dynion drwg ac ofergoeledd pobl weiniaid.

Yn awr, rhwng yr oll o'r dylanwadau hyn, yn ychwanegol at y crybwyllion cyffredinol a wnaed ar ragoriaethau a diffygion ein llenyddiaeth newyddiadurol Gymreig, credwn ein bod wedi amcanu cerdded y maes oedd genym mewn golwg wrth gychwyn. Ymdrechasom, hyd ag yr oedd ynom, i gyfeirio at yr ysgrifau, erthyglau, dadleuon, &c., a barasant fwyaf o gynhwrf a sylw yn ein gwlad, a'r rhai a dybiem sydd wedi treiddio ddyfnaf i fywyd cenedlaethol y Cymry, er, ar yr un pryd, ein bod yn cofio mai nid yr ysgrifau mwyaf cynhyrfus bob amser ydynt y rhai mwyaf gwir ddylanwadol; ac os gadawsom unrhyw un neu rai heb eu henwi, pryd y dylasent gael eu henwi, nid oes genym ond datgan ein gofid, a dyweyd mai yn gwbl ddifwriad y bu hyny. Byddai yn dda genym, wrth derfynu gyda y rhan hon, pe byddai i newyddiaduron Cymru deimlo eu cyfrifoldeb, ac arfer eu holl ddylanwad er dyrchafiad cyffredinol y wlad, a thrwy hyny ogoneddu enw Duw; a thra y byddant ar y llinellau hyn, yr ydym, gyda chywirdeb calon, yn dymuno eu llwyddiant yn mhob ystyr, ac yn credu y dylai y wlad, yn mhob ffordd, roddi ei chefnogaeth lwyraf iddynt.