Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y pren hwn wedi gwreiddio yn ddwfn yn ein llenyddiaeth, ac wedi ymestyn allan mewn gwahanol ganghenau, a barnwn mai gwell, er cael syniad clir am hanes yr holl bren, ydyw ceisio edrych, i ddechreu, i hanes pob canghen ar ei phen ei hun. Mae y gwa hanol ganghenau cylchgronol hyn yn gwasanaethu i wahanol amcanion yn ol gwahanol alwadau ein cenedl:— (1) Y Cylchgrawn Crefyddol. (2) Y Cylchgrawn Llenyddol. (3) Y Cylchgrawn Cerddorol. (4) Y Cylchgrawn Athronyddol. (5) Y Cylchgrawn i'r Ysgol Sabbothol. (6) Y Cylchgrawn i'r Chwiorydd. (7) Y Cylchgrawn Cenhadol. (8) Y Cylchgrawn Dirwestol. (9) Y Cylchgrawn i'r Plant. (10) Y Cylchgrawn Cyffredinol.

1.—Y Cylchgrawn Crefyddol.

Trysorfa Ysprydol, 1799, Trysorfa, 1809, Goleuad Gwynedd, 1818, Goleuad Cymru, 1820, Y Drysorfa, 1831.—Yr ydym yn cysylltu y pump hyn oherwydd eu bod wedi eu cychwyn gan bersonau yn perthyn i'r un cyfundeb, yn gweithio ar yr un maes ac i'r un amcanion, ac, yn y diwedd, wedi ymgolli yn yr un cyhoeddiad. Cychwynwyd Trysorfa Ysprydol (Llyfr I.) gan y Parchn. T. Charles, Bala, a T. Jones, Dinbych, a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Ebrill, 1799. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Wele eiriau wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf:— "Trysorfa Ysprydol, yn cynnwys Amrywiaeth o bethau at amcan crefyddol, yn athrawiaethol, yn annogaethol, yn hanesiol, &c. Yn nghydag ychydig Farddoniaeth. Gan T. C. a T. J Caerlleon argraphwyd gan W. C. Jones. Pris chwe' cheiniog. Ac a fwriedir i'w gyhoeddi bob tris mis rhagllaw." Yn nglyn a'r rhifyn cyntaf a ddaeth allan o'r Trysorfa Ysprydol ceir "Llythyr at Mr. T. Jones, o'r Wyddgrug," yn cynnwys "Hanes Fer o fordaith lwyddiannus y Llong Duff,' yr hon a anfonwyd