Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i drosglwyddo deg-ar-hugain o genhadon (missionaries) i bregethu yr Efengyl i drigolion Paganaidd Ynysoedd y Mor Deheuol, yn nghydag ychydig annogaethau i gynnorthwyo gorchwyl pwysfawr a chanmoladwy." Ysgrifenwyd ef gan "Thomas Charles, Llundain, Medi 9fed, 1798." Dyma un o'r llythyrau cyntaf, os nad y cyntaf oll, a ysgrifenwyd erioed ar y Genhadaeth Dramor yn yr iaith Gymraeg. Daeth allan o'r Trysorfa Ysprydol dri rhifyn yn y flwyddyn 1799, sef yn misoedd Ebrill, Mehefin, a Hydref. Daeth allan ddau rifyn yn y flwyddyn 1800, sef yn misoedd Ionawr a Hydref, a daeth y chweched rhifyn allan yn Rhagfyr, 1801. Dyna yr oll a ddaeth allan dan yr enw Trysorfa Ysprydol. Wedi i wyth mlynedd fyned heibio, sef yn y flwyddyn 1809, daeth y cyhoeddiad hwn allan drachefn dan yr enw Trysorfa (gan adael allan y gair Ysprydol), a gelwir hwn yn Llyfr II, dan olygiad y Parch. T. Charles ei hun. Daeth allan dri rhifyn ohono yn y flwyddyn 1809, sef yn misoedd Mawrth, Gorphenaf, a Rhagfyr. Daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1810, sef yn misoedd Awst a Rhagfyr. Daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1811, sef yn misoedd Mawrth ac Awst. Daeth tri rhifyn allan yn y flwyddyn 1812, sef yn misoedd Ionawr, Mehefin, a Medi; a daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1813, sef yn misoedd Ionawr a Tachwedd, a chyda hyn y terfyna yr ail gyfrol. Bu farw y golygydd haedd-barch Hydref 5ed, 1814. Chwe' blynedd ar ol hyny, sef yn y flwyddyn 1819, ymddangosodd y cyhoeddiad hwn am y drydedd waith (Llyfr III.), dan olygiaeth y Parch. Simon Lloyd, Bala. Yn ystod y blynyddoedd 1819, 1820, ac 1821, deuai allan yn rheolaidd bob chwarter, yn misoedd Ionawr, Ebrill, Gorphenaf, a Hydref, ac eithrio un tro, sef Gorphenaf, 1820; a daeth allan dri rhifyn yn y flwyddyn 1822, yr olaf yn Gorphenaf, ar ddalen olaf yr hwn y