Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a 'goleuni y gyfraith,' ac â llusern oleuwawr Gair Duw,' a hyny yn ei iaith serchog a synwyrlawn ei hun, eithr fel cyfrwng goleuni a gwybodaeth dymmorol, ni fedd y Cymry yr un cylchdraeth wythnosol na misol ond Seren Gomer, yr hon sydd yn pelydru o eithaf Deheudir Cymru." Dengys hyn oll fod y cyhoeddiad hwn yn un gwerthfawr i oleuo y genedl yn y tymmor boreuol hwnw. Yn y flwyddyn 1820, newidiwyd ei enw o fod yn Goleuad Gwynedd i fod yn Goleuad Cymru. Parhaodd Goleuad Cymru i ddyfod allan hyd Rhagfyr, 1830, pryd y prynwyd yr hawl ynddo gan gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, a chychwynwyd ef o'r newydd dan yr enw Y Drysorfa. Daeth allan y rhifyn cyntaf yn Ionawr, 1831, a dyma yr adeg, mewn gwirionedd, y cychwynodd cylchgrawn swyddogol a rheolaidd y cyfundeb—Y Drysorfa —yn ei ffurf bresennol. Bu i'r Parch. John Parry, Caerlleon, barhau i olygu Y Drysorfa hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ar Ebrill 28ain 1846. Yn Rhagymadrodd y Llyfr Cyntaf o'r Gyfres Newydd am y flwyddyn 1847, ceir nodiad gan y golygwyr yn hysbysu fod gostyngiad pris Y Drysorfa o chwe' cheiniog i bedair ceiniog, yr hyn a wnaed y flwyddyn hono, wedi bod yn fantais fawr i'w chylchrediad. Cytunwyd i ostwng ei phris yn Nghymdeithasfa Machynlleth, yr hon a gynnaliwyd yn Awst 1846, a thair mil a ddisgwylid a fuasai ei chylchrediad ar ol y gostyngiad, ond cododd i bum' mil y flwyddyn hono. Ymgymerwyd a'r olygiaeth (ar ol marwolaeth y Parch. John Parry, Caerlleon) gan y Parch. John Roberts, Lerpwl, ac yn Ionawr, 1848, ceir fod y Parchn. John Roberts, Lerpwl, a Roger Edwards, Wyddgrug, yn gyd-olygwyr; oud ceir yn Ionawr, 1853, fod y Parch. John Roberts yn ymneillduo o'r olygiaeth, ac o'r pryd hwnw hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 19eg, 1886, pan ydoedd yn